Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfoesi ac ychwanegu mymryn am {{prif|Hanes Cymru}} a manion ar y gweddill
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
[[m:Wiki is not paper|Nid gwyddoniadur papur mo Wicipedia]]. Nid oes cyfyngiad ymarferol i'r nifer o destunau a allai ymdrin â hwy, na chyfanswm y cynnwys, ar wahân i'r ffaith fod angen gallu gwirio'r wybodaeth a'r pwyntiau eraill a gyflwynir ar y dudalen hon. Fodd bynnag, dylid nodi fod gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn a ''ellir'' gwneud, a'r hyn a ''ddylid'' gwneud, a sonnir am hyn yn yr adran [[#Cynnwys|gynnwys]] isod. O ganlyniad, nid yw'r polisi hwn yn rhoi rhwydd hynt i gynnwys popeth: rhaid i erthyglau ddilyn y polisïau cynnwys perthnasol, yn enwedig i rheiny a sonnir amdanynt yn y [[Wicipedia:Pum Colofn|pum colofn]].
 
Er mwyn sicrhau fod Wicipedia yn hawdd i'w ddefnyddio, dylid sicrhau nad yw erthyglau'n mynd yn rhy hir. Mae rhannu erthyglau hir gan adael crynodebau digonol yn helpu erthyglau i dyfu'n naturiol. Mae gwyddoniaduron papur yn aml yn trafod rhai testunau mewn ffordd fer, ond gallwn ni ddarparu mwy o wybodaeth, cysylltiadau i ddolenni allanol, a diweddaru'r wybodaeth yn gyflym. Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae Wicipedia'n wahanol i wyddoniaduron papur, gweler y [[Wicipedia:Arddull]]. Gallwch leihau erthygl hir drwy gychwyn erthygl newydd a thorri a phastio i fewn iddi. Cofiwch adael mymryn ar ôl a dolen i'r erthygl newydd ar ffurf côd: '''<nowiki>{{prif|Hanes Cymru}}</nowiki>''', sydd yn ei dro'n edrych fel hyn: {{prif|Hanes Cymru|Cynhanes Cymru}}.
 
== Cynnwys ==