Boddi Tryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3402628 (translate me)
Llinell 5:
[[Delwedd:Llyn Celyn - geograph.org.uk - 250851.jpg|250px|bawd|de|Boddi Tryweryn: y dŵr yn codi dros yr hen B4391, Awst 1965.]]
{{Tryweryn}}
Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu [[argae]] ddŵr yng Nghwm [[Tryweryn]] i gyflawnigyflenwi dŵr i drigolion [[Lerpwl]]. Roedd y prosiect werth £20 miliwn. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn [[Llyn Efyrnwy|Efyrnwy]]. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un [[aelod seneddol]] o Gymru o'i blaid.<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'' (Argraffiad Penguin, 1992), tud. 640.</ref>
 
Roedd y mesur yn caniatáu [[gorchymyn prynu gorfodol|prynu'r tir yn orfodol]] a chafodd gefnogaeth gref oddi wrth [[Henry Brooke]], y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, [[Harold Wilson]], [[Bessie Braddock]] a [[Barbara Castle]]. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd y Fonesig [[Megan Lloyd George]], [[T. I. Ellis]], Syr [[Ifan ab Owen Edwards]], [[Gwynfor Evans]] a'r aelod seneddol lleol [[Thomas William Jones|T. W. Jones]].