Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Stafell Ddirgel"

Ychwanegwyd 7 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7763081 (translate me))
No edit summary
[[Nofel]] hanesyddol gan [[Marion Eames]] yw '''Y Stafell Ddirgel'''. Mae'r nofel wedi'i lleoli yn rhannol yn ardal [[Dolgellau]] yn yr [[17eg ganrif]]. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn [[1969]].
 
Mae'r nofel yn ymdrin â'r erlid a fu ar y [[Crynwyr]] yn dilyn dyfodiad [[Siarl II, obrenin LoegrLloegr a'r Alban|Siarl II]] ar orsedd Lloegr. Mae'r nofel yn dechrau ym [[1672]], deuddeng mlynedd wedi'r [[Yr Adferiad|Adferiad]]. Dilyniant i'r ''Y Stafell Ddirgel'' yw ''[[Y Rhandir Mwyn]]''. Yn y nofel honno disgrifir helyntion y Cymry ar ôl iddynt ymfudo i [[Pennsylvania]] yn America gan obeithio osgoi'r erlid a fu arnynt yng Nghymru.
 
Daw Rowland Ellis, prif gymeriad y nofel, yn Grynwr o ganlyniad i ddylanwad cymydog ond nid yw ei wraig o'r un farn ag ef. Yn dilyn ei marwolaeth hi, mae'n ailbriodi ei gyfnither, sy'n cydymdeimlo ag achos y Crynwyr. Fe'u bradychir i'r awdurdodau gan un o gyn-weision ei fferm a theflir Ellis a'i gyd-grynwyr i'r carchar a'u dedfrydu i farwolaeth. Fe'u rhyddheir ar ôl ymyrraeth uniongyrchol y brenin, a phenderfynant ymfudo i America am fywyd gwell.