Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Heddiw: delwedd o Gas Meurig
plycio a 18
Llinell 1:
[[Delwedd:Britannica Crowd 9th Century Crwth.png|200px|bawd|Crythor yn chwarae'r crwth. ''Beibl'' [[Siarl Foel]], 9fed ganrif. Dyma'r llun cyntaf o'r crwth ac mae'r gwreiddiol i'w weld yn y ''Bibliothèque Nationale, Paris''.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ydy'r '''crwth''', ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha''; [[Gaeleg]]: ''cruit''; [[Saesneg]]: ''crwth'' neu ''crowd''; [[Almaeneg]]: ''chrotta'', ''hrotta''). Mae'n eitha tebyg i'r ffidil (neu'r [[fiolin]]), ond fod ganddo fel arfer chwe thant. Caiff ei gannu'n âwreiddiol drwy blycio ac yn ddiweddarach gyda [[bwa]] ac mae ganddo ffrâm betrual, bren; y rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng [[Cyfreithiau Hywel Dda|Nghyfreithiau Hywel Dda]] yn y 12fed ganrif.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth] adalwyd 18/04/2013</ref> Cyfeiria'r cyfreithiau hyn at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn. Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn [[Eisteddfod Aberteifi 1176|Eisteddfod]] yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yng [[Castell Aberteifi|Nghastell Aberteifi]] ym 1176, acble maeurddwyd deunaw crythor. Ceir cywydd gan [[Rhys Goch Eryri]], tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a'r cerddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r [[saer]] wella, a'r crythau'n haws eu prynnu, gwelir fod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb.
[[Delwedd:1-ac-crwth Sain Ffagan.jpg|160px|bawd|chwith|Crwth Sain Ffagan; delwedd drwy ganiatâd.]]
[[Delwedd:2-nl-crwth.jpg|160px|bawd|bawd|chwith|Crwth y Llyfrgell Genedlaethol; delwedd drwy ganiatâd.]]