Uwch Tryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
teipio
Llinell 1:
Un o ddau [[cwmwd|gwmwd]] [[Cantref]] [[Penllyn]] ym [[Meirionnydd]] (de [[Gwynedd]]) oedd '''Uwch Tryweryn'''.
 
Gorweddai Uwch Tryweryn yn rhan orllewinol cantref Penllyn gyda'r [[Afon Tryweryn]] yn nodi rhan o'r ffin rhyngddo a'r ail gwmwd, [[Is Tryweryn]], gan roi iddo ei enw. Ffiniai ag [[Is Aled]] i'r gogledd, [[Mochnant Uwch Rhaeadr]] a chwmwd [[Tal-y-bont (cwmwd)|Tal-y-bont]] (yn cynnwys cmwmdcwmwd [[Mawddwy]] ar ôl 1536) i'r de ac [[Ardudwy Uwch Artro]] i'r gorllewin. Canolog i'r cwmwd oedd [[Llyn Tegid]]; roedd [[Caer Gai]], maerdy cynnar Penllyn, ar ei lan orllewinol.
 
Fel gweddill Penllyn, roedd Uwch Tryweryn yn rhan o [[teyrnas Powys|deyrnas Powys]] hyd at ddechrau'r 13eg ganrif, pan gipiwyd Penllyn gan [[Llywelyn Fawr]], [[Teyrnas Gwynedd|Tywysog Gwynedd]]. Ar ôl goresgyniad 1283 daeth yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd.