Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dagon"

Ychwanegwyd 78 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
delwedd
B (Bot: Migrating 25 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q623065 (translate me))
(delwedd)
 
[[Delwedd:Dagon1.jpg|250px|bawd|Dagon]]
Duw [[Semitaidd]] a addolid yn y [[Dwyrain Canol]] oedd '''Dagon''' neu '''Dagan''' ([[Hebraeg]]: '''דגון'''), efallai yn dduw amaeth a grawn. Fe'i addolid gan yr [[Amoriaid]] a thrigolion dinasoedd [[Ebla]] ac [[Ugarit]]. Roedd yn un o dduwiau pwysicaf y [[Ffilistiaid]], efallai y pwysicaf un.
 
Ceir y cofnod cyntaf o'i enw tua 2500 CC yn nhestunau [[Mari, Syria|Mari]] ac yn enwau personol yr Amoriaid. Roedd teml fawr iddo yn Ugarit tua 1300 CC. Yn yr [[Hen Destament]], mae'n ymddangos fel prif dduw y Ffilistiaid, a dywedir i [[Samson (Beibl)|Samson]] ddinistrio ei deml yn [[Gaza]]. Dywedir i [[Arch y Cyfamod]] gael ei chipio oddi wrth yr Iddewon gan y Ffilistiaid, a'i chadw yn nheml Dagon yn [[Ashdod]].
 
[[Categori:Duwiau]]
[[Categori:Yr Hen Destament]]