Tudur ab Ednyfed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1:
'''Tudur ab Ednyfed''' (fl. c. [[1220]] - [[1278]]) oedd mab [[Ednyfed Fychan]] a [[distain]] (canghellor) [[Teyrnas Gwynedd]] a [[Cymru|Chymru]] o [[1268]] hyd [[1278]] yng ngwasanaeth [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]]. Ei frawd oedd [[Goronwy ab Ednyfed]] (m. [[1268]]), yntau'n ddistain Gwynedd.
Dechreuodd Tudur ei yrfa gweinyddol fel [[rhaglaw]] [[Dinorben]] (neu [[Dinbych|Ddinbych]]) (c. [[1240]] - [[1245]]). Bu'n gennad i Lywelyn ar sawl achlysur cyn cael ei benodi'n ddistain — swydd bwysicaf y deyrnas — ar farwolaeth ei frawd yn 1268. Yn Rhagfyr [[1263]] roedd yn bresennol pan ymostyngodd [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]] i Lywelyn a gweithredodd i drefnu terfynau tir Gruffudd mewn perthynas â thiriogaeth Llywelyn. Sonnir amdano yn nogfennau [[Cytundeb Trefaldwyn]] ([[1267]]) ac fel cynrychiolydd Llywelyn mewn trafodaethau â [[Gilbert de Clare]] yn [[1268]]. Yn [[1277]], gyda [[Goronwy ap Heilyn]], cynrychiolodd Lywelyn yn y
===Cyfeiriadau===
|