Wicipedia:Arddull: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Enwau lleoedd: y ddwy safon ddylid eu derbyn
Dyfynaiad a refs
Llinell 113:
(I ddilyn peth o hanes trafod enwau lleoedd gweler [[Sgwrs:Gwledydd y byd]].)
====Cymru====
Gan fod Wici wedi'i sefydlu ar bum colofn Wicipedia, dylid cofio na ddylid cynnwys barn bersonnol, ond yn hytrach defnyddio wgybodaeth arbenigol. Yn y cyswllt hwn, sefydlwyd yn 2011 Gymdeithas Enwau Lleoedd Chymru<ref>[http://www.cymdeithasenwaulleoeddcymru.org/ Gwefan Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru]; adalwyd 31 Mai 2013</ref> gyda'r bwriad o safoni'r enwau drwy Gymru gyfan. Cânt eu cynghori gan Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd Prifysgol Cymru, Bangor, Ganolfan Bedwyr ac unigolion academaidd megis [[Hywel Wyn Owen]]. Erbyn 2013 roedd nifer o siroedd wedi cytuno gydag argymhellion y pwyllgor. Gan mai dyma'r unig safon cenedlaethol a geir ar hyn o bryd, dylid derbyn hon ar bob achlysur. Safon arall ddylid ei dderbyn (oni bai fod y Gymdeithas yn cynnig fersiwn wahanol) yw Gwyddoniadur Cymru.
 
Dyma ychydig o'r drefn safoni, yn ôl Hywel Wyn owen:
 
''Hyd at 2001 roedd gan y Swyddfa Gymreig, ac yna’r Cynulliad, drefniant i ymgynghori â’r Athro Emeritus Gwynedd Pierce yng Nghaerdydd a Tomos Roberts ym Mangor. Daeth eu cytundebau hwy i ben, a’r un pryd fe drosglwyddwyd y cyfrifoldeb o gynnig cyngor i Fwrdd yr Iaith. Trefn y Bwrdd ydy gofyn i mi bellach gynghori’r Cynulliad a Bwrdd yr Iaith. Cyfnewidir gwybodaeth rhwng y ddau gorff. O ganlyniad, pan fo ymholiad yn dod i Linell Gyswllt y Bwrdd mae’n bosib bod yr ateb ganddyn nhw yn barod. Ond fe
gymerodd y Bwrdd ddau gam pwysig arall. Y cyntaf oedd sefydlu Panel Safoni Enwau Lleoedd. Mae’r Panel yn cynnwys tri academig, un addysgwr, un cyfieithydd o Adran Gyfieithu’r Cynulliad, cynrychiolydd yr Arolwg Ordnans, a Swyddog Iaith Sirol, gyda dau o Fwrdd yr Iaith yn gweinyddu ac yn cydlynu trefniadau. Ail gam pwysig y Bwrdd oedd hybu a noddi prosiect ym Maldwyn i geisio gweithio yn drefnus ar safoni enwau lleoedd Maldwyn.''<ref>[http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/content/uploads/documents/Safoni.pdf Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Plas Talgarth, Pennal, 29 Tachwedd 2002] adalwyd 31 Mai 2013</ref>
 
===Termau sy'n amrywio yn ôl ardal===