Yr Almaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ffynonellau a manion using AWB
Llinell 55:
Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaenig i her chwyldroadol [[y Chwyldro Ffrengig]], gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen i mewn i’r ugeinfed ganrif.
 
i love GERMANS OMG, hitler kiss me
== Hanes ==
{{prif|Hanes yr Almaen}}
 
Y cofnod cyntaf o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o [[Afon Rhein]] yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn [[9|9 OC.]] gorchfygwyd byddin Rufeinig dan [[Publius Quinctilius Varus]] gan gynghrair o lwythau Almaenig dan [[Arminius]] ym [[Brwydr Fforest Teutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]]. Dinistriwyd tair [[lleng Rufeinig]] yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.
 
Sefydlwyd [[yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]] yn y [[9fed ganrif]], a pharhaodd hyd [[1806]]. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys [[Awstria]], [[Slovenia]], [[Gweriniaeth Tsiec]], gorllewin [[Gwlad Pwyl]], [[yr Iseldiroedd]], dwyrain [[Ffrainc]], [[y Swistir]] a rhan o ogledd [[yr Eidal]]. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y [[16eg ganrif]], a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".
 
Rhwng [[1618]] a [[1648]], effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau'r [[Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain]]. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y [[Protestaniaeth|Protestaniaid]] a'r [[Eglwys Gatholig|Catholigion]] o fewn yr [[Ymerodraeth Lân Rufeinig]]. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau heb gysylltiad â chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o [[hurfilwyr]], ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn [[Brandenburg]] roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o [[Heddwch Westphalia]].
 
Ffurfiwyd y [[Conffederasiwn Almaenig]] yn [[1815]], yna ffurfiwyd [[Ymerodraeth yr Almaen]] yn [[1871]], gydag [[Otto von Bismarck]] yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], a ffodd yr ymerawdwr [[Wilhelm II]] i'r Iseldiroedd.
 
Sefydlwyd [[Gweriniaeth Weimar]] yn [[1919]], ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd [[Cytundeb Versailles]]. Yn [[1933]] daeth [[Adolf Hitler]] yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd [[y Drydedd Reich]]. Arweiniodd hyn at [[yr Ail Ryfel Byd]] [[1939]] - [[1945]]. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, [[Gorllewin yr Almaen]] a [[Dwyrain yr Almaen]]. Parhaodd hyn hyd [[1990]], pan adunwyd y wlad.
 
== Daearyddiaeth ==