Y Fad Felen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Afiechyd}}
[[Pla]] mawr yn y [[6ed ganrif]] oedd '''Y Fad Felen''' neu'r '''Fall Felen''' (hefyd 'Pla Melyn'). Yr enw [[Gwyddeleg]] arni oedd ''Crón Chonnaill'' ('y clefyd melynddu'), neu ''Buidhe Chonnaill'' ('y clefyd melyn'). Yr enw [[Saesneg]] oedd "The Yellow Plague of Rhos".{{angen ffynhonnell}}
 
Cofnoda'r ''[[Annales Cambriae]]'' iddi ladd [[Maelgwn Gwynedd]], brenin [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a nifer o bobl eraill yn y flwyddyn [[547]]:
:''Mortalitas magna in qua pausat Mailcun rex Genedotae. Unde dicitur, 'Hir hun Wailgun en llis Ros.' Tunc fuit wallwelen.'<ref>John Morris (gol.), ''Nennius: British History, and The Welsh Annals'' (Llundain, 1980).</ref>
 
Mae'r [[Llawysgrifau Cymreig|llawysgrif gynnar]] ''[[Llyfr Llandaf]]'' yn cyfeirio at i hefyd, dan yr enw ''flaua pestis'' (gyda'r glos 'Y Vall Velen'). Roedd yn lladd meddyg a chlaf fel ei gilydd ac yn gadael y wlad yn anghyfannedd.<ref>J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Text of the Book of Llan Dâv'' (1893), t. 131.</ref>
 
Yn ôl traddodiad [[llên gwerin]] cuddiodd Maelgwn yn [[Eglwys Rhos]] (rhwng [[Degannwy]] a [[Llandudno]]). Gwelodd y Fad Felen (sy'n fath o anghenfil ddinistriol yn y traddodiad Cymreig) drwy dwll clo'r eglwys a disgynodd i'r llawr yn gelain yn y fan. Daeth y llinell a ddyfynnir yn yr ''Annales Cambriae'' yn ddihareb: 'Hir hun Maelgwn yn llys (neu 'eglwys') Rhos'. Mae [[Gildas]] yn dweud mai hon oedd un o'r tair cosb enbyd a roddai [[Duw]] ar y [[Brythoniaid]] i ddial eu camweddau.
 
Ceir nifer o gyfeiriadau at y Fad Felen yng ngwaith y beirdd, er enghraifft gan [[Iolo Goch]] a [[Iorwerth Fynglwyd]]. Yn ôl [[Thomas Pennant]] yn ei ''Tours in Wales'', 'yr oedd (y Fad Felen) i gymeryd naill ai ffurf sarff gribog... neu ynte ar lun benyw brydferth, yr hon a laddodd Maelgwyn gyda chipdrem.'<ref>Thomas Pennant, ''Teithiau yng Nghymru'' (Caernarfon, 1883), t. 440.</ref>
 
==FfynonellauCyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
*J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Text of the Book of Llan Dâv'' (1893), t. 131
*John Morris (gol.), ''Nennius: British History, and The Welsh Annals'' (Llundain, 1980)
*Thomas Pennant, ''Teithiau yng Nghymru'' (Caernarfon, 1883), t. 440.
 
{{DEFAULTSORT:Fad Felen, Y}}