Turku: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'right|thumb|Turku yn yr hydref Dinas ar arfordir de-orllewin y Ffindir ar aber Afon Aura yw '''Turku''' (Ffinneg...'
 
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
Dinas ar arfordir de-orllewin y [[Ffindir]] ar aber Afon [[Aura]] yw '''Turku''' ([[Ffinneg]]: [ˈturku], [[Swedeg]]: '''Åbo''' [ˈoːbu]). Gwladychwyd y dref yn ystod y [[13fed ganrif]] a sefydlwyd hi ar ddiwedd y ganrif honno, sy'n golygu mai dinas hynaf y Ffindir yw hi. Daeth yn ddinas bwysicaf y wlad, a bu felly am ganrifoedd. Ar ôl i'r Ffindir ddod yn rhan o [[Ymedrodraeth Rwsia]] ym 1809, symudwyd prifddinas [[Archddugiaeth y Ffindir]] i [[Helsinki]] ym 1812, ond Turku oedd y ddinas fwyaf poblog yn y Ffindir tan ddiwedd y 1840au. Mae'n dal yn brifddinas ranbarthol ac yn ganolbwynt busnes a diwylliant.
 
==Enw==
Mae'r enw Ffinneg ''Turku'' yn deillio o air [[Hen Slafeg Dwyreiniol]] ''tǔrgǔ'', sy'n golygu "[[marchnad]]".<ref>{{cite web|url=http://www.katajala.net/keskiaika/suomi/kaupungit.html |title=Keskiaika - Suomen kaupungit keskiajalla |publisher=Katajala.net |date= |accessdate=2011-09-16}}</ref> Mae'r gair ''turku'' yn dal i olygu "marchnad" mewn rhai idiomau yn y Ffinneg. ''Torg'' yw'r gair Swedeg am farchnad ac mae'n debyg iddo gael ei fenthyg o Hen Slafeg Dwyreiniol, ond roedd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn [[Hen Swedeg]]. <ref>{{cite web|url=http://g3.spraakdata.gu.se/saob/ |title=Svenska Akademiens ordbok - SAOB |publisher=Svenska Akademien |date= |accessdate=2011-12-13}}</ref>
 
Mae'r enw Swedeg ''Åbo'' i'w weld yn hawdd ei esbonio, oherwydd iddo gynnwys y geiriau ''å'' ("afon") a ''bo'' ("nyth, annedd") a allai olygu rhyweth tebyg i "dŷ'r afon". Er hynny, mae geirdarddwyr yn credu bod yr esboniad hwn yn anghywir gan mai hen enw yw ef ac nad oes dim enwau tebyg eraill.<ref>{{cite web|url=http://svenska.yle.fi/svenskfinland/artikel.php?id=4&subject=1000km |title=Åbo &#124; Orter, hus och historia i Svenskfinland |publisher=svenska.yle.fi |date= |accessdate=2011-09-16}}</ref> Ceir hen derm cyfreithiol o'r enw ''åborätt'' (sy'n golygu "hawl i fyw yn"), a oedd yn rhoi'r hawl etifeddadwy i ddinasyddion ("åbo") i fyw ar dir a oedd yn perthyn i'r goron.<ref>http://sv.wikipedia.org/wiki/Åborätt</ref>
 
Awgrymwyd hefyd fod yr enw Ffinneg ''Turku'' yn cyfeirio at y farchnad yn wreiddiol ond bod yr enw Swedeg ''Åbo'' yn cyfeirio at y castell.
 
Yn Ffinneg, ''Turun'' yw [[Cyflwr gramadegol|cyflwr genidol]] Turku, felly mae llawer of enwau Ffineg ar sefydliadau Turku yn dechrau gyda'r gair hwn, er enghraifft, ''Turun yliopisto'' am Brifysgol Turku.
 
==Oriel==
Llinell 18 ⟶ 27:
File:Turku Samppalinna.jpg|Yr Hen Felin yn Samppalinna
</gallery>
 
==Cyfeiriadau==
{{Cyfeiriadau|2}}
 
{{eginyn y Ffindir}}