Clément Marot: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: it:Clément Marot
Llinell 3:
 
== Ei Oes ==
Tua [[1506]] cafodd ei dad swydd yng ngwasanaeth [[Ann o Lydaw]] ym [[Paris|Mharis]] ac aeth Clément yno efo fo. Cafodd swydd fel ysgrifenydd llys a daeth yn aelod o'r [[Basoche]] a'r ''[[Enfants sans souci]]'', dwy gymdeithas a warcheidiai fuddianau gwŷr cyfraith ac a hyrwyddai ddigwyddiadau llenyddol a diwyllianol. Tua [[1518]] cafodd ei apwyntio'n ''valet de chambre'' i Marguerite d'Alençon ([[Marguerite de Navarre]]), a fyddai'n ddiwedarach yn Frenhines [[Navarre]]. Pan fu farw ei dad yn 1526 cymerodd Clément ei le yn llys Brenin [[Ffrainc]] ond parhaodd i fwynhau nawdd Marguerite de Navarre. Roedd gweithgareddau Marot yn ennyn gwg y diwinyddion ceidwadol a chafodd ei garcharu yn y ''Châtelet'' am gyfnod yn [[1525]] am dorri ympryd y [[Grawys]]. Yn sgîl yr adwaith yn [[1534]] yn erbyn y [[Martin Luther|Lutheriaid]] a'u cydymdeimlwyr mudodd i'r [[Yr Eidal|Eidal]] a threuliodd gyfnod pwysig yn [[Ferrara]] a [[Fenis]]. Dychwelodd i Ffrainc a llwyddodd i barhau a'i waith o gyfieithu'r [[Llyfr y Salmau|Salmau]], oedd wedi codi gwrychyn y ceidwadwyr eglwysig. Yn [[1541]] bu rhaid iddo ffoi eto, i [[Genefa]] y tro yma, lle cafodd gefnogaeth [[Jean Calvin]]. Ond roedd ymddygiad anghonfensiynol y bardd yn digio'r [[ProtestantDiwygiad Protestannaidd|Protestaniaid]] hefyd - dywedir iddo chwarae bacgamon ar y Sabath, er enghraifft - a ffôdd unwaith eto, i [[SafoiSavoy]] (Savoie) ac yna i'r Eidal lle bu farw yn [[Torino|TŵrinTwrin]] yn 1544.
 
== Ei Waith ==