Abad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

person crefyddol
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Abad''' yw pennaeth abaty a'r gymuned o fynachod sy'n byw ynddo. Fel rheol mae'r gymuned yn fod i gynnwys o leiaf 12 o fynachod. Daw'r enw o'r gair Aramaeg ''ab...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:18, 26 Mai 2007

Abad yw pennaeth abaty a'r gymuned o fynachod sy'n byw ynddo. Fel rheol mae'r gymuned yn fod i gynnwys o leiaf 12 o fynachod. Daw'r enw o'r gair Aramaeg abba "tad", ac mae'r abad yn fod i ymddwyn fel tad ysbrydol tuag at y mynachod yn ei ofal. Yn urddau'r Sistersiaid a'r Benedictiaid mae'r abad yn cael ei ethol am oes ac yn mwynhau awdurdod eang.

Roedd nifer o seintiau yn abadau, yn cynnwys Antoni o'r Aifft, Bernardino o Sienna a Bernard o Clairvaux.

Gweler hefyd


 

 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.