Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gerallt Gymro"

Lleihawyd o 1,445 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
lololooll lolo
(fandaliaeth)
(lololooll lolo)
Hello Billy
[[Delwedd:Manorbier Castle 3.jpg|250px|bawd|Castell Maenorbŷr, lle ganwyd Gerallt Gymro]]
Roedd '''Gerallt Gymro''' (neu '''Giraldus Cambrensis''' yn [[Lladin]]) (c.[[1146]]- c.[[1223]]) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol. Ei enw bedydd oedd '''Gerald de Barri'''. Roedd yn ysgolhaig gwych a chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth eglwysig ei ddydd. Roedd o dras gymysg, hanner Cymreig, hanner [[Normaniaid|Normanaidd]] ac mae hyn yn elfen amlwg yn ei agwedd a'i yrfa. Fe'i gwerthfawrogir yn bennaf heddiw am ei ddau lyfr arbennig am Gymru sy'n rhoi golwg unigryw ar fywyd y wlad ar ddiwedd y [[12fed ganrif]].
 
==Teulu a blynyddoedd cynnar==
[[Delwedd:Gerallt Gymro 00dg.JPG|250px|bawd|chwith|'''Gerallt Gymro''']]
Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr hyddysg yn yr iaith [[Lladin|Ladin]]. Fe'i ganwyd yn [[1146]] yng nghastell [[Maenor Bŷr]], [[Sir Benfro]] yn fab i [[Angharad ferch Nest|Angharad]], merch [[Nest merch Rhys ap Tewdwr|Nest]] (fl.[[1100]]-[[1120]]), merch [[Rhys ap Tewdwr]]) a [[William de Barri]], arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Ynys y Barri]].
 
Treuliodd gyfnod fel archddiacon [[Brycheiniog]] yn [[Eglwys gadeiriol Aberhonddu|Aberhonddu]]. Roedd ei ewythr Dafydd, yn esgob [[Tyddewi]], a phan fu farw yn [[1176]] dewisodd y [[Cymry]] Gerallt i'w olynu, ond gwrthododd Archesgob [[Caergaint]] ei dderbyn gan benodi Sais yn ei le. Dyna un rheswm pam yr oedd Gerallt yn gobeithio y byddai'r Cymry yn gallu herio awdurdod Caergaint.
 
==Y Daith Trwy Gymru==
Yn [[1188]] roedd [[Baldwin, Archesgob Caergaint]], am deithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r [[Y Drydedd Groesgad|Drydedd Groesgad]] ac i ymweld ag [[Eglwys gadeiriol|eglwysi cadeiriol Cymru]] i ddangos eu bod dan ei awdurdod, ac fe ofynnodd i Gerallt Gymro deithio gyda fe. Ysgrifennodd Gerallt hanes y daith yn y llyfr ''Itinerarium Cambriae'' ([[Hanes y Daith Trwy Gymru]]).
Defnyddiwr anhysbys