Aberteifi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
B canran = benywaidd, nier > nifer
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: iaith: yn > ym
Llinell 23:
 
== Hanes ==
Codwyd [[Castell Aberteifi|castell yn Aberteifi]] tua dechrau'r [[12fed ganrif]] yn ôl pob tebyg (mae peth dryswch yn y cofnodion cynnar rhwng y castell yn y dref a'r castell cynharach ar ei gyrion a elwir [[Hen Gastell Aberteifi]]). Yn y flwyddyn [[1176]] cynhaliodd [[Yr Arglwydd Rhys]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] [[Eisteddfod Aberteifi, 1176|eisteddfod yn ei lys]] yno adeg y [[Nadolig]], yr [[eisteddfod]] gyntaf sy'n hysbys. Ymwelodd [[Gerallt Gymro]] ag Aberteifi yn ystod ei [[Hanes y Daith Trwy Gymru|daith trwy Gymru]] ym [[1188]]. Arhosodd y castell a'r dref fechan yn nwylo arglwyddi [[Deheubarth]] y rhan fwyaf o'r amser hyd [[1240]] pan syrthiodd i'r Saeson. Cipiodd [[Owain Glyndŵr]] y castell o ddwylo'r [[Saeson]] ynym [[1405]].
 
Tyfodd y dref yn borthladd prysur yn y [[18fed ganrif]]. Erbyn dechrau'r [[19eg ganrif]] roedd dros 300 o [[llong hwylio|longau hwylio]] yn gofrestredig yno. Cofnodir i tua 200 o longau gael eu hadeiladu mewn pump iard adeiladu ar lan yr afon. Allforid llechi [[Cilgerran]] o'r porthladd. Fodd bynnag dechreuodd yr afon siltio i fyny ac erbyn dechrau'r [[20fed ganrif]] roedd dyddiau'r porthladd ar ben.