Ardal yng ngogledd [[Caerdydd]] ydy '''Y Mynydd Bychan''' ([[Saesneg]]: ''Heath''). Mae'r rhan fwyaf o dai yr ardal yn rhai led-wahân, dosbarth canol, a adeiladwyd yn ystod y 1920au–1950au. Adeiladwyd [[Ysbyty Prifysgol Cymru]] ar hen safle Coedwig Mynydd Bychan yn yr 1960au, felly mae'r rhanfwyaf o lefydd gwyrdd yr ardal wedi diflannu. Mae Parc Mynydd Bychan wedi goroesi fodd bynnag, gyda choed a glaswellt, cyfleusterau chwaraeon a rheilffordd stêm ar raddfa fechan.
Lleolir [[Ysgol Mynydd Bychan]] yn ardal [[Gabalfa]] i'r de o'r ardal.<ref>[http://www.ysgolmynyddbychan.cardiff.sch.uk/ Gwefan Ysgol Mynydd Bychan]</ref>