Grangetown: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Manylion am enwau Cymraeg
enw safonol
Llinell 1:
[[Delwedd:View across Penarth Moors toward Cardiff - geograph.org.uk - 1378102.jpg|bawd|265px]]
Ardal a chymuned yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yw '''Grangetown'''.<ref name="Gwyddon">{{Dyf llyfr |olaf= Davies |cyntaf= John |cydawduron= Menna Baines, Peredur Lynch, Nigel Jenkins |teitl= [[Gwyddoniadur Cymru]] |cyhoeddwr= [[Gwasg Prifysgol Cymru]] |blwyddyn= 2008 |mis= |isbn= 0-7083-1954-3|iaith=Cymraeg|tud=118}}</ref> Mae'n un o ardaloedd mwyaf Caerdydd, ac mae'n arffinio ardaloedd [[Glan yr Afon]], [[Treganna]] a [[Tre-Biwt|Thre-Biwt]]. Mae [[Afon Taf]] yn troi ei ffordd drwy'r ardal. Gyferbyn ag ardal [[Bae Caerdydd]], mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau yno, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.
 
Roedd gan Grangetown boblogaeth o 14,367 mewn 6230 aelwyd yn ystod [[cyfrifiad]] 2001. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras [[Somalia]]idd, [[Asia]]idd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml [[Hindŵ]] mwyaf Caerdydd,<ref>[http://www.swaminarayanwales.org.uk Swaminarayan Wales]</ref> ac amryw o [[mosg|fosgiau]] gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.
 
==Enwau Cymraeg==
''Grangetown'' yw'r enw arferolsafonol yn y Gymraeg.<ref name="Gwyddon" /> Gwelir weithiau yr amrywiadau ''Y Grange'' ac ''Y Grenj'' (sydd yn cyfateb i'r Saesneg ''The Grange''). Mae [[Owen John Thomas]] wedi arfer y ffurf ''Y Grange Mawr'' (ffurf sydd o bosibl yn dangos dylanwad ffurfiau Saesneg hynafol megis ''Mor Grange'' a ''Grange Moor'').<ref>Owen John Thomas, 'Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1800-1914', tt. 191–3, yn [[Geraint H. Jenkins]] (gol.), ''Iaith Carreg Fy Aelwyd'' (Caerdydd, 1998).</ref> Ymddengys fod yr enwau ''Trelluest'', ''Trefaenor'' a ''Trefynach'' yn fathiadau diweddar heb seiliau hanesyddol. ''Grangetown'' yw'r ffurf a ddefnyddir gan ''[[Gwyddoniadur Cymru]]'', ond mae hefyd yn cydnabod bolodaeth y ffurf ''Trelluest''.
 
==Cyfeiriadau==