Shïa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Refs, enw delweddau a Nodion, replaced: Afghanistan → Affganistan using AWB
Llinell 1:
{{Islam}}
 
Mae'r '''Shïa''' ([[Arabeg]]: شيعة , yn golygu "Plaid" ) yn enwad yng nghrefydd [[Islam]], yr ail-fwyaf ar ôl y [[Sunni|Swni]]. Mae dilynwyr y Shïa, y Shïaid, yn ystyried [[Ali ibn Abu Talib|Alī ibn Abī Tālib]], cefnder a mab-yng-nghyfraith y Proffwyd [[Muhammad]] fel ei olynydd ([[Califf]]) ac fel yr [[Imam]] cyntaf. Yn ôl eu cred hwy, dim ond disgynyddion Ali all fod yn olynwyr y Proffwyd. Datblygodd rhai gwahaniaethau diwinyddol hefyd, ac mae cyfraith y Shïa ychydig yn wahanol i gyfraith y Swnni.
 
Credir fod y Shïaid tua 15% o ddilynwyr Islam heddiw. Mae nifer o wahanol fathau o Shïa; y mwyaf yw'r Imamyddion neu'r "Deuddegwyr", sy'n credu fod deuddeg Imam wedi bod. Maent yn byw yn
[[Iran]] (90% o'r boblogaeth gyfan), [[Aserbaijan]] (85%), [[Irac]] (60%), [[Bahrain]] (70%), [[Libanus]] (40%), [[Kuwait]] (30%), [[Pakistan]] (20%), [[AfghanistanAffganistan]] (20%), [[Saudi Arabia]] (5-20%), [[Syria]] (10%) ac [[India]] (1-2%).
 
Yr ail fath o Shïaid yw'r [[Ismailiaid (Shia)|Ismailiaid]], sy'n credu mewn saith Imam ac yn byw yn Pakistan, India, Syria ac AfghanistanAffganistan. Trydydd math yw'r [[Zaiditiaid]], sy'n derbyn pump Imam, ac yn byw yng ngogledd [[Yemen]] yn bennaf. Mae'r Alefitiaid yn byw yn [[Twrci|Nhwrci]] a'r gwledydd cyfagos.
 
[[Delwedd:Islam by country.png|bawd|300px|chwith|Gwledydd gyda mwy na 10% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Islam<br /><span style="color:#008000;">'''Gwyrdd'''</span>: Gwledydd y Swnni, <span style="color:#ff0000;">'''Coch'''</span>: Gwledydd Shïa, <span style="color:#0000bb;">'''Glas'''</span>: Ibaditiaid (Oman)]]
 
Dechreuodd y Shïa ynghanol y dadleuon wedi marwolaeth Muhammad yn 632 ynglŷn a phwy ddylai ei olynu. Daeth [[Abu Bakr|Abū Bakr]] yn olynydd iddo, a dim ond yn ddiweddarach y cafodd Ali ei enwi fel y pedwerydd califf. Nid oedd pawb am ei dderbyn, ac yn 661 lladdwyd ef. Roedd Ali'n briod a merch y Proffwyd, [[Fatima bint Muhammad|Fātima]]. Yn ddiweddarach lladdwyd ail fab Ali a Fatima, trydydd [[Imam y Shia]], [[Al-Hussain ibn 'Alī|Hussain]] ym mrwydr Kerbala yn 680. Mae'r Shïa'n ystyried Hussein fel merthyr.
 
{{eginyn Islam}}
 
[[Categori:Islam]]