Isfahan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Refs, enw delweddau a Nodion, replaced: Afghanistan → Affganistan using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Esfahan-shah-sq.jpg|de|300px|thumb|Y Meidan Enam yn Isfahan]]
 
Dinas yng nghanolbarth [[Iran]] yw '''Isfahan''' neu '''Esfahan''' ([[Perseg]]: اصفهان). Gyda phoblogaeth o 2.54 miliwn, hi yw'r drydydd ddinas fwyaf yn Iran, ac mae'n brifddinas rhanbarth Isfahan. Saif tua 340 km i'r de o [[Tehran]] ar lan ogleddol afon [[Zayandeh Rud]].
 
Mae Isfahan yn hen ddinas, a adwaenid fel '''Aspadana''' yn y cyfnod clasurol. Roedd yn brifddinas rhanbarth Persia Uchaf o ymerodraeth [[Parthia]]. Alltudiwyd [[Iddewon]] yno yn ystod y goncwest [[Babilon|Fabilonaidd]]. Daeth y ddinas yn bwysig fel un o'r dinasoedd ar [[Ffordd y Sidan]], y rhwydwaith o lwybrau masnach rhwng [[Tsieina]] a'r [[Môr Canoldir]].
Cipiwyd y ddinas gan yr [[Arab]]iaid yn [[643]].
 
Gwnaeth [[Malik Sjah I]] hi yn brifddinas yn [[1051]], ac yn ystod y cyfnod yma bu'r meddyg ac athronydd [[Avicenna]] yn byw yma. Cipiwyd y ddinas gan [[Timur]] yn [[1387]], a lladdwyd tua 70,000 o'r trigolion wedi iddynt wrthryfela yn ei erbyn. Daeth yn brifddinas Persia eto yn [[1598]], ac yn y cyfnod nesaf dan [[Abbas I]] adeiladwyd llawer o adeiladau enwocaf y ddinas, megis y ''[[Meidan Emam]]''. Cipiwyd y ddinas gan yr [[AfghanistanAffganistan|Afghaniaid]] yn [[1722]], a dinistriwyd rhan helaeth ohoni.
 
==Pobl enwog o Isfahan==