Gilgit–Baltistan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
didolnod Tsieineeg a Choreeg using AWB
Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Refs, enw delweddau a Nodion, replaced: Afghanistan → Affganistan using AWB
Llinell 2:
[[Delwedd:K2 8611.jpg|250px|bawd|[[K2]] o Concordia.]]
[[File:Gilgit-Baltistan in Pakistan (de-facto + Glacier) (disputed hatched) (claims hatched).svg|thumb|Lleoliad Gilgit–Baltistan]]
Un o diriogaethau gweinyddol [[Pacistan]] yw '''Gilgit–Baltistan''' ([[Wrdw]]: گلگت بلتستان, [[Balti (iaith)|Balti]]: གིལྒིཏ་བལྟིསྟན). '''Ardaloedd y Gogledd''' ([[Wrdw]]: شمالی علاقہ جات, ''Shumālī Ilāqe Jāt'') neu, yn swyddogol, '''Ardaloedd y Gogledd dan Weinyddiaeth Ffederal''' (''Federally Administered Northern Areas'': FANA) oedd ei henw tan 2009. Mae Gilgit–Baltistan yn ffurfio'r endid mwyaf gogleddol o fewn y rhan o gyn-deyrnas [[Teyrnas Jammu a Kashmir|Jammu a Kashmir]] sydd dan reolaeth Pacistan yn hytrach nag [[India]]. Mae'n ffinio ar ddarn bychan o [[AfghanistanAffganistan]] i'r gogledd-orllewin, [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, talaith Bacistanaidd [[Jammu a Kashmir Azad]] (AJK) i'r de, a thalaith Indiaidd [[Jammu a Kashmir]] i'r de-ddwyrain. Ffurfiwyd yr Ardaloedd yn 1970 pan unwyd Asiantaeth [[Gilgit]], Dosbarth [[Baltistan]] ([[Ladakh]] Wazarat), a [[Hunza]] a [[Nagar]]. Gyda chanolfan weinyddol yn nhref [[Gilgit]], mae gan Gilgit–Baltistan arwynebedd o 72,971 km² (28,174 mi²) a phoblogaeth o tua 1,800,000.
 
Mae Gilgit–Baltistan yn rhan o ranbarth [[Kashmir]] sy'n diriogaeth ddadleuol yr hawlir rhannau ohoni gan India, Pacistan a Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mewn canlyniad mae'r tensiynau ar hyd y ffin yn fawr ac mae milwyr Pacistan ac India yn saethu at ei gilydd dros y 'LOC' (''Line of Control'', chwedl cyfryngau India) o bryd i'w gilydd.
 
Yng ngogledd a dwyrain Gilgit–Baltistan ceir y [[Karakoram]] a'r [[Himalaya]] Gorllewinol, sy'n cynnwys pump o'r mynyddoedd uchaf yn y byd, dros 8,000 medr, yn cynnwys [[K2]] a [[Nanga Parbat]], a thros hanner cant sydd dros 7000 medr. O drefi uchel Gilgit a [[Skardu]] mae sawl taith fynydda wedi cychwyn i'w dringo.
 
Rhed [[Traffordd y Karakoram]], un o'r ffyrdd uchaf yn y byd, trwy Gilgit–Baltistan i gysylltu Pacistan a Tsieina.