Gwareiddiad Dyffryn Indus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q42534 (translate me)
Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Refs, enw delweddau a Nodion, replaced: Afghanistan → Affganistan (2) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:IVC Map.png|250px|ewin bawd|Map sy'n dangos prif ganolfannau Gwareiddiad Dyffryn Indus]]
[[Delwedd:Mohenjodaro Sindh.jpeg|250px|ewin bawd|Mohenjo-daro, [[Pacistan]]]]
Yr oedd '''Gwareiddiad Dyffryn Indus''' (c. 3300–1700 CC, ar ei anterth 2600–1900 CC), yn [[gwareiddiad|wareiddiad]] hynafol a flodeuodd yn nyffrynnoedd afonydd [[Afon Indus|Indus]] a [[Afon Ghaggar-Hakra|Ghaggar-Hakra]] yng ngogledd-orllewin [[is-gyfandir India]] ([[Pakistan]] a gorllewin [[India]] heddiw), a cheir tystiolaeth fod ei ddylanwad yn ymestyn mor bell â rhannau o [[AfghanistanAffganistan]] a [[Turkmenistan]]. Enw arall a ddefnyddir am y gwareiddiad hwn weithiau yw '''Gwareiddiad Harappa''', ar ôl y gyntaf o'u dinasoedd i gael ei chloddio, [[Harappa]]. Er bod tystiolaeth sy'n awgrymu fod y gwareiddiad yn adnabyddus i bobl [[Sumer]] (ym [[Mesopotamia]]) fel '''Meluhha''', ni ddaeth i'r golwg tan y 1920s fel canlyniad i gloddio gan archeolegwyr.
 
== Hanes ei ddarganfod ==
Cafodd adfeilion dinas [[Harappa]] eu disgrifio am y tro cyntaf yn 1842 gan Charles Masson yn ei gyfrol ''Narrative of Various Journeys in Balochistan, AfghanistanAffganistan and the Panjab''. Yn 1912, darganfuwyd seliau o Harappa gan J. Fleet, a arweiniodd i gloddio gan Syr John Hubert Marshall yn 1921/22, a ddatguddiodd fodolaeth gwareiddiad newydd. Dilynwyd hyn gan gloddio ym [[Mohenjo-daro]]. Erbyn 1931, roedd llawer o safle Mohenjo-Daro wedi'i gloddio. Yna yn 1944, daeth Syr [[Mortimer Wheeler]], fel cyfarwyddwr [[Arolwg Archaeolegol India]], i gloddio. Mae archaeologwyr eraill a fu'n weithgar yno cyn 1947 yn cynnwys Syr [[Aurel Stein]]. Dychwelodd Syr Mortimer Wheeler yn 1949, fel ymgynghorydd archaeolegol i lywodraeth y Pakistan newyddanedig. Ers hynny darganfuwyd olion o'r gwareiddiad mor bell i'r gorllewin a [[Sutkagan Dor]] yn [[Balochistan]], ac mor bell i'r dwyrain a [[Lothal]] yn [[Gujarat]].
 
== Cyfnodau ==