Elenydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 15 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1028218 (translate me)
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
Dileu'r fannod ddiangen o flaen 'Elenydd'
Llinell 1:
:''Am y bardd Elerydd, gweler [[William John Gruffydd (Elerydd)]].''
 
Ardal o fryniau yng [[Gorllewin Cymru|ngorllewin]] a [[Canolbarth Cymru|chanolbarth Cymru]] yw'r '''Elenydd'''. Mae'n ymestyn o fryniau ardal [[Pumlumon]] yn y gogledd (i'r de o [[Machynlleth|Fachynlleth]] ac i'r dwyrain o [[Aberystwyth]]) i lawr i fryniau gogledd [[Sir Gaerfyrddin]] a de-ddwyrain [[Ceredigion]], gan gynnwys sawl bryn canolig ei uchder yn y ddwy sir honno ac yng ngorllewin [[Powys]]. Ni cheir cytundeb unfarn ar derfyn deheuol yr Elenydd. Tueddir i gyfeirio at yr ardal yn Saesneg fel y "''Cambrian Mountains''", ond enw anaddas a diystyr ydyw (gweler hefyd [[Cambria]] a [[Cambriaidd]]). Ceir cyfeiriadau at Elenydd (yn y ffurf [[Cymraeg Canol]] ''Elenid'' / ''Elenyd'') mewn sawl llawysgrif gan ddechrau ar ddiwedd y 12fed ganrif, gan gynnwys chwedl [[Math fab Mathonwy]] yn y [[Mabinogion]] a gwaith [[Gerallt Gymro]].<ref>Iwan Wmffre, ''The Place-Names of Cardiganshire cyfrol III'' t. 1314 (2004)</ref>
[[Delwedd:Pumlumon Fawr.jpg|250px|bawd|[[Pumlumon|Pumlumon Fawr]], copa uchaf yr Elenydd]]
 
Ucheldir o rosdiroedd a bryniau yn hytrach na chadwyn o fynyddoedd fel y cyfryw yw'r Elenydd. Mae'n ardal anghysbell sy'n gartref i adar prin fel y [[Barcud Coch]]. Cyfeirir ato weithiau fel "Anialdir Gwyrdd Cymru". Ceir olion sawl gweithfa [[plwm]], neu plwm ac [[arian]], yn yr ardal, yn arbennig yng nghyffiniau Pumlumon, rhai ohonynt yno ers Oes y [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]]. Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am [[aur]] ym mwyngloddiau [[Dolaucothi]], ar odre ddeheuol yr Elenydd.
 
Ond er bod y bryniau eu hunain yn llwm ac agored, yn y cymoedd sy'n eu brodio ceir nifer o bentrefi bychain a chymunedau clos. Mewn cwm ar odre orllewinol yr Elenydd ceir adfeilion [[Abaty Ystrad Fflur]].
 
Ganed y bardd [[William John Gruffydd (Elerydd)|W. J. Gruffydd]] ym mhentref [[Ffair-rhos]], Ceredigion, a mabwysiadodd yr [[enw barddol]] 'Elerydd' (nid 'Elenydd' sylwer!). Tynnodd ar enw'r afon Leri gerllaw ei gartref yn Nhalybont lle'r oedd yn weinidog ar Eglwys Fedyddiedig y Tabernacl pan goronwyd ef am ei bryddest 'Ffenestri' yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1955|Eisteddfod Pwllheli ym 1955]]. Aeth ymlaen i gipio'r goron eto yng [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1960|Nghaerdydd]] ym 1960 am bryddest ar y testun 'Unigedd'.
 
==Rhai o fryniau'r Elenydd==
Wedi eu rhestru o'r gogledd i'r de
*[[Pumlumon]] (752 m)