Pop Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
delwedd
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
delwedd
Llinell 16:
 
== Caneuon protest ==
[[Delwedd:Dafydd-Iwan by-Aberdare-Blog.jpg|bawd|chwith|Dafydd Iwan yn [[Aberdâr]]]]
Yr hyn a wthiodd cerddoriaeth pop Cymraeg ymlaen oedd y [[Cân brotest|gân brotest]] gyda Dafydd Iwan ar flaen y gad. Roedd llawer o bethau'n poeni ieuenctid Cymru ar y pryd; boddi [[Tryweryn]] yn [[1965]], statws yr iaith Gymraeg ac arwisgiad Charles fel Tywysog Cymru yn [[1969]]. Yn lle cyfansoddi [[Cân serch|caneuon serch]] roedd y clerwr yn mynd a'i gitâr i'r dafarn a chanu caneuon [[dychan|ddychanol]] a [[Cân brotest|chaneuon brotest]]. Pan ddechreuodd [[Dafydd Iwan]], [[Huw Jones]] a [[Brian Morgan Edwards]] [[recordiau Sain]] yn [[1969]], y [[Cân brotest|gân brotest]] "Dŵr" gan [[Huw Jones]] oedd y record gyntaf. Roedd cân brotest yn ei hanterth yr adeg honno, hefyd gyda [[Bob Dylan]] er engraifft yn ffigwr byd-eang, amlwg.