Bashkortostan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Lleoliad Bashkortostan yn Rwsia. 250px|bawd|[[Ufa, prifddinas...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:28, 12 Gorffennaf 2013

Gweriniaeth yn Rwsia yw Bashkortostan, neu Gweriniaeth Bashkortostan (Rwseg: Респу́блика Башкортоста́н, Respublika Bashkortostan; IPA: [rʲɪsˈpublʲɪkə bəʂkərtɐˈstan]; Bashcireg: Башҡортостан Республикаһы, Başqortostan Respublikahı), a adwaenir hefyd fel Bashkiria (Rwseg: Башки́рия, Bashkiriya; IPA: [bɐʂˈkʲirʲɪjə]). Fe'i lleolir rhwng Afon Volga a Mynyddoedd yr Wral yn ne'r Rwsia Ewropeaidd. Ei phrifddinas yw Ufa. Poblogaeth: 4,072,292 (Cyfrifiad 2010).

Lleoliad Bashkortostan yn Rwsia.
Ufa, prifddinas Bashkortostan.

Mae cysylltiadau cryf rhwng y weriniaeth a'i chymydog Tatarstan. Bashkortostan yw'r weriniaeth fwyaf yn Russia o ran ei phoblogaeth. Mae gan y weriniaeth ei llywodraeth ei hunan gyda arlywydd etholedig; yr arlywydd ers Awst 2010 yw Rustem Khamitov. Mae Bashkortostan yn rhan o Ddosbarth Ffederal Volga.

Mae Bashkortostan yn rhannu ffin gyda Perm Krai )gog.), Oblast Sverdlovsk (gog.-ddwyr.), Oblast Chelyabinsk (dwyr.), Oblast Orenburg (de), Gweriniaeth Tatarstan (gor.), Gweriniaeth Udmurt (gog.-gor.).

Dolenni allanol

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.