Beowulf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Beowulf.firstpage.jpeg|250px|de|bawd|Tudalen gyntaf llawysgrif ''Beowulf'']]
Cerdd arwrol [[Hen Saesneg]] (neu [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsoneg]]) yw '''''Beowulf''''', sy'n 3182 llinell o ran hyd. Caiff y gerdd ei chyfrif fel y gerdd bwysicaf yn llenyddiaeth Eingl-Saesneg.
 
Mae'n dechrau trwy ddisgrifio cynhebrwng Scyld Scefing, un o arwyr mawr y Daniaid, cyn fynd ymlaen adrodd hanes yr arwr Beowulf yn ymladd yr anghenfil Grendel gan ei ladd. Mae mam Grendel wedyn yn ymosod arno ac mae Beowulf yn ei lladd hithau. Aiff adre'n arwrol ac yn fuddugoliaethus i Geatland yn [[Sweden]]. Ar ôl hanner can mlynedd, mae'n ymladd draig ac yn ei lladd ond caiff ei glwyfo'n angheuol wrth wneud hynny a chaiff ei gladdu gan ei gyfeillion yng ngolwg y môr.
 
Cedwir testun ''Beowulf'' mewn [[llawysgrif]] sy'n dyddio o tua dechrau'r 11eg ganrif, ond credir gan mwyafrif o feirniadau i'r gerdd gyrraedd ei ffurf bresennol rhywbryd cyn hynny. Dichon fod hyn yn ddiwedd proses o drosglwyddo ar lafar ond ni ellir gwybod hyn i sicrwydd.
 
Er mai Beowulf yw prif cymeriad y gerdd, mae hi hefyd yn cynnwys nifer o ffigyrau a straeon eraill. Mae llawer o gymeriadau a llwythi sydd yn y gerdd hefyd i'w canfod mewn llenyddiaeth Sgandinafaidd e.e. Healfdene, Hroðgar, Halga, Hroðulf, Eadgils ac Ohthere), y llwythi Scyldings, Scylfings a'r Wulfings a rhai digwyddiadau megis y Frwydr ar Rew Llyn Vänern.<ref>{{eicon en}} {{Dyf llyfr |olaf= Shippey |cyntaf= T. A. |teitl= "Wicked Queens and Cousin Strategies in Beowulf and Elsewhere, Notes and Bibliography". In the Heroic Age |cyhoeddwr= In the Heroic Age |blwyddyn= 2001}}</ref>
Llinell 27:
==Dolenni allanol==
*Slade, Benjamin. ''[http://www.heorot.dk/ Beowulf on Steorarume (Beowulf in Cyberspace)]''.
 
{{eginyn llenyddiaeth}}
 
[[Categori:Barddoniaeth Saesneg]]
Llinell 34 ⟶ 32:
[[Categori:Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Mytholeg]]
 
 
{{eginyn llenyddiaeth}}