Lindsay Ashford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3241442 (translate me)
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 1:
Nofelydd trosedd a newyddiadurwraig Seisnig yw '''Lindsay Ashford'''. Mae ei harddull ysgrifennu wedi cael ei chymharu â gwaith [[Vivien Armstrong]], [[Linda Fairstein]] a [[Frances Fyfield]]. Mae nifer o'i nofelau'n dilyn y cymeriad Megan Rhys, seicolegydd ymchwiliol.
 
Fe'i magwyd yn Wolverhampton, [[Lloegr]] a hi oedd y ferch gyntaf i raddio o [[Coleg y Breninesau, Caergrawnt|Goleg y Breninesau, Caergrawnt]] yn ei hanes 550 mlynedd o hyd. Enillodd radd mewn [[Troseddeg]]. Cyflogwyd Ashford fel newyddiadurwraig gan y [[BBC]] cyn iddi ddechrau weithio'n lawrydd, gan ysgrifennu ar gyfer amryw o bapurau newydd a chylchgronau. Mynychodd Ashford gwrs ysgrifennu trosedd a redwyd gan y Arvon Foundation ym 1996. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, ''Frozen'', gan [[Honno]] yn 2003.
 
Cafodd ''Strange Blood'' ei enwi ar restr fer [[Theakston's Old Peculier Crime Novel of the Year Award]] 2006.<ref>{{dyf gwe| url=http://itsacrime.typepad.com/its_a_crime_or_a_mystery/2006/10/lindsay_ashford.html| teitl=Strange Blood - Lindsay Ashford| cyhoeddwr=IT'S A CRIME! (OR A MYSTERY...)| dyddiad=2006-10-26}}</ref> Ysgrifennodd ''The Rubber Woman'' ar gyfer cyfres [[Stori Sydyn]] yn 2007.