Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Garmon''' neu '''Germanus ofo Auxerre''' (c. [[378]]–[[31 Gorffennaf]], [[448]]) yn esgob [[Auxerre]] yng [[Gâl|Ngâl]]. Ystyrir ef yn [[sant]] gan yr [[Eglwys Gatholig]] a'r [[Eglwysi Uniongred]]; ei ddydd gŵyl yw [[31 Gorffennaf]]. Y prif ffynhonnell ar gyfer ei hanes yw'r fuchedd a ysgrifennwyd gan Constantius o Lyon tua [[480]]. Roedd Constantius yn gyfaill i'r esgob Lupus, aeth gyda Garmon ar ymweliad â Phrydain.
 
Ordeiniwyd Garmon yn esgob Auxerre gan Sant Amator, ei ragflaenydd yn y swydd. Dywedir iddo fod yn gyfreithiwr ac yn llywodraethwr talaith cyn troi at yr eglwys. Tua 429, daeth y newydd fod [[Pelagiaeth]] yn ennill tir ym Mhrydain oherwydd dylanwad Agricola, mab i esgob. Mewn cyfarfod o esgobion Gâl dewiswyd Garmon a Lupus, esgob [[Troyes]], i ymweld a Phrydain i wrthwynebu dylanwad Agricola.