Blanche-Nef: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 20 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q756846 (translate me)
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 2:
Suddodd y '''''Blanche-Nef''''' (''Y Llong Wen''), [[llong hwyliau]] o'r 12fed ganrif, ym [[Môr Udd]] ger arfordir [[Normandi]], yn ymyl [[Barfleur]], ar 25 Tachwedd 1120. Boddwyd sawl person blaenllaw yn y byd Eingl-Normanaidd a lledodd yr hanes am y trychineb trwy Gymru, Ffrainc a Lloegr.
 
Ymhlith y rhai a foddwyd ar ei bwrdd oedd [[William Adelin]], unig fab cyfreithlon y brenin [[Harri I o Loegr]], a [[Richard d'Avranches, 2il Iarll Caer]], mab [[Huw Flaidd]]. Croniclwyd yr hanes gan [[William o Malmesbury]]. Boddwyd Geoffrey, archddiacon [[Henffordd]], Cowntes [[Caer]], Lucia-Mahaut o Blois (nith Harri I) ac eraill hefyd. Dim ond un o'r rhai ar fwrdd y ''Llong Wen'' a oroesodd.
 
Tarodd y llong ar graig yn y môr wrth dynnu am Barfleur. Roedd yn hwylio dros nos ar noson loergan.