Brigantes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 22 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q500393 (translate me)
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 1:
[[Image:Map of the Territory of the Brigantes.svg|thumb|right|300px|Tiriogaeth y Brigantes ar fap o Gymru a Lloegr.]]
 
Llwyth Celtaidd yng ngogledd [[Lloegr]] oedd y '''Brigantes'''. Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn dros y rhan fwyaf o Ogledd Lloegr a rhan o Ganolbarth Lloegr. Ceir yr enw ''[[Brigantium]]'' mewn nifer o leoedd ar y cyfandir, er enghraifft y ''Brigantii'' yn ardal [[yr Alpau]].
 
Ymddengys na fu gwrthdrawiad rhwng y Brigantes a'r Rhufeiniaid yng ngyfonod cynnar y goncwest Rufeinig, ond yn [[47]], bu raid i lywodraethwr Prydain, [[Publius Ostorius Scapula]], roi'r gorau i'w ymgyrch yn erbyn y [[Deceangli]] yng ngogledd-ddwyrain Cymru oherwydd helynt ymysg y Brigantes. Pan orchfygwyd [[Caradog]] gan y Rhufeiniaid mewn brwydr yn nhiriogaeth yr [[Ordoficiaid]] yn [[51]], aeth at [[Cartimandua]], brenhines y Brigantes, i geisio nodded. Trosglwyddodd Cartimandua ef yn garcharor i'r Rhufeiniaid.
 
Yn y cyfnod yma, roedd Cartimandua a'i gŵr [[Venutius]] yn ochri gyda'r Rhufeiniaid, ond wedi iddynt ysgaru, trodd Venutius yn erbyn ei wraig a Rhufain. Cafodd Cartimandua gefnogaeth y Rhufeiniaid, ond cymerodd Venutius fantais ar helyntion [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]] yn [[69]] i yrru ei wraig o'r orsedd.