Clawdd Offa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 3:
Clawdd a ffos sy'n rhedeg yn gyfochrog i'r [[Y ffin rhwng Cymru a Lloegr|ffin bresennol]] rhwng [[Cymru]] a [[Lloegr]] yw '''Clawdd Offa'''. Mae'n ymestyn o [[aber]] [[Afon Dyfrdwy]] yn y gogledd i aber [[Afon Hafren]] yn y de am 150 [[milltir]]; dyma oedd y clawdd hwyaf neu hiraf a wnaed gan ddyn yng ngorllewin [[Ewrop]] yn yr [[Oesoedd Canol]].<ref>References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.</ref>
 
Mae'n debygol yr adeiladwyd ef yn ystod teyrnasiad [[Offa o Mercia|Offa]], Brenin [[Mercia]] yn yr [[8fed ganrif|wythfed ganrif]]. Yr adeg honno roedd y clawdd yn dynodi'r ffin rhwng [[teyrnas Powys]] a Mersia a hefyd, efallai, yn amddiffyn Mersia rhag ymosodiadau gan y Cymry. Nid oes sicrwydd mai Offa a gododd y clawdd; mae'n bosib fod rhan ohono yn gynharach.
 
Mae Clawdd Offa ar restrau [[Cadw]] ac [[English Heritage]] ac mae [[Llwybr Clawdd Offa|llwybr cyhoeddus pellter hir]] ar hyd y clawdd.
 
== Llyfryddiaeth ==