Cytundeb Tridarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KLBot2 (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q7843244
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 1:
Cytundeb a luniwyd, yn ôl pob tebyg, ar [[28 Chwefror]], [[1405]], rhwng [[Owain Glyndŵr]], [[Tywysog Cymru]], [[Henry Percy, Iarll 1af Northumberland]], ac [[Edmund Mortimer]] (mab-yng-nghyfraith Glyndŵr) oedd y '''Cytundeb Tridarn''' neu'r '''Cytundeb Triphlyg''' ([[Saesneg]]: ''Tripartite Indenture''). Mae'n bosibl ei fod wedi ei lunio yn nhŷ [[Esgobaeth Bangor|archddiacon Bangor]]. Ceir yr unig gopi sydd wedi goroesi mewn cronicl Seisnig a elwir yn ''Gronicl Giles'', ond mae'n destun anghyflawn.
 
Gellid dadlau fod y Cytundeb Tridarn yn un o'r dogfennau mwyaf syfrdanol yn [[hanes Prydain]]. Mae'r cytundeb yn ymrwymo'r cyngrheiriaid i gymhorthu ei gilydd yn erbyn unrhyw berygl iddynt fel arwyddwyr y cytundeb.
 
Ond fe â llawer ymhellach na hynny. Cyfeirir at [[darogan|broffwydoliaeth]], sy'n deillio mae'n debyg o'r [[Canu Darogan]] Cymreig, sy'n darogan yr ymrennir 'llywodraeth Prydain Fwyaf' ([[Lladin]]: ''regimen Brittaniae Majoris'') rhwng tri arglwydd. Glyndŵr a'i gynghreiriad yw'r arglwyddi hynny. Byddant yn rhannu [[Ynys Brydain]] (heb gynnwys yr [[Alban]]) rhyngddynt fel pennaethau sofrennaidd annibynnol. Ond fe â'r ddogfen ymhellach fyth. Caiff Iarll Northumberland ddeuddeg sir yng ngogledd a chanolbarth [[Lloegr]] ac mae Edmund Mortimer i gael gweddill Lloegr. Byddai hynny'n drefniant parhaol iddyn nhw a'u etifeddion.
 
A dyma'r rhan a roddir i Glyndŵr a phob Tywysog Cymru ar ei ôl, yn ôl y ddogfen: