Elmet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 12 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1333032 (translate me)
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 2:
Teyrnas [[Brythoniaid|Frythonig]] [[ôl-Rufeinig]] oedd '''Elmet''' (Cymraeg Diweddar: '''[[Elfed]]''') a adwaenid yng [[Cymru'r Oesoedd Canol|Nghymru'r Oesoedd Canol]] fel un o deyrnasoedd [[yr Hen Ogledd]].<ref>''Gwyddoniadur Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 330.</ref> Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn [[Swydd Efrog]] yn ngogledd [[Lloegr]], yn yr ardal o gwmpas dinas [[Leeds]]. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod [[Afon Sheaf]] yn ffin iddi yn y de, ac [[Afon Wharfe]] yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar [[Deira]] ac yn y de ar [[Mercia]].
 
Ymosodwyd ar Elmet gan [[Northumbria]] yn hydref [[616]] neu [[626]]. yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', a briodolir i [[Nennius]], ceir sôn am [[Edwin, brenin Northumbria]] ''"occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis"'' ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd [[Ceredig ap Gwallog|Certic]], brenin y wlad honno").
 
Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis [[Barwick-in-Elmet]] a [[Sherburn-in-Elmet]]. Gelwir yr etholaeth seneddol yn "Elmet".
 
Ceir cyfeiriad at Elmet mewn arysgrif ar garreg fedd gynnar yn [[Llanaelhaearn]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]], "ALIOTVS ELMETIACOS HIC IACET", neu "Yma y gorwedd Aliortus o Elmet".
 
Cadwyd dwy gerdd yn ''[[Llyfr Taliesin]]'' i [[Gwallog|Gwallog ap Llaennog]], oedd yn frenin Elfed tua diwedd y [[6ed ganrif]]. Er bod testunau'r ddwy gerdd i'w cael yng nghanol y canu a dderbynnir fel cerddi dilys y [[Taliesin]] hanesyddol does dim sicrwydd eu bod yn waith y bardd hwnnw. Mae un o'r cerddi yn fawl i Wallog sy'n rhestru ei fuddugoliaethau ac mae'r llall yn [[marwnad|farwnad]] iddo. Mae'r iaith yn ddigon astrus.<ref>Ifor Williams (gol.), ''Canu Taliesin'', tt. xxxvi-xxxix a cherddi XI a XII.</ref>