Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mercia"

Lleihawyd o 2 feit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
B (Bot: Migrating 43 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q105092 (translate me))
(Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB)
[[Delwedd:Kingdom of Mercia.png|thumb|275px|right|Terynas Mercia, yn dangos y deyrnas wreiddiol yn y 6ed ganrif mewn gwyrdd tywyll, a maint eithaf y deyrnas rhwng y 7fed a'r 9fed ganrif mewn gwyrdd golau.]]
Roedd '''Mercia''' (neu '''Mersia'''; [[Eingl-Sacsoneg]]: ''Mierce'', "pobl y gororau"), yn un o deyrnasoedd yr [[Eingl-Sacsoniaid]], gyda'i chalon o gwmpas dyffryn [[Afon Trent]].
 
Roedd Mercia'n ffinio â nifer o deyrnasoedd Cymru, yn enwedig [[Teyrnas Powys|Powys]], a bu llawer o ymladd rhyngddynt, ond hefyd ambell dro gynghrair. Y brenin cyntaf y gwyddir amdano oedd Creoda, a ddaeth i rym tua 585. Dilynwyd ef gan ei fab, [[Pybba]], yn 593. Dilynwyd ef gan Cearl yn 606, yna daeth [[Penda]] yn frenin. Gwnaeth Penda gynghrair gyda nifer o'r brenhinoedd Cymreig i ymgyrchu yn erbyn [[Northumbria]], yn enwedig [[Cadwallon ap Cadfan]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]].
 
Lladdwyd Penda gan y Northunbriaid ym Mrwydr Winwaed yn 655, ac am gyfnod gwanychwyd Mercia yn fawr. Yn ddiweddarach, tua dechrau'r [[8fed ganrif]], cryfhaodd y deyrnas eto, a chipiwyd darn sylweddol o ddwyrain Powys, yn cynnwys y brifddinas, [[Pengwern]]. Daeth [[Ethelbald, brenin Mercia|Æthelbald]] yn frenin yn [[716]], ac wedi iddo ef farw bu rhyfel am yr orsedd a enillwyd gan [[Offa, brenin Mercia|Offa]]. Yn ddiweddarach edwinodd grym Mercia, cipiwyd rhan ddwyreiniol y deyrnas gan y Daniaid a thyfodd [[Wessex]] i fod y mwyaf grymus o deyrnasoedd Lloegr.
450,625

golygiad