Thomas Burgess: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2422789 (translate me)
→‎Bywyd: Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 5:
Ganed Burgedd yn, [[Odiham]], [[Hampshire]], a chafodd ei addysg yn Ysgol Robert May, Odiham, Coleg Caerwynt, a [[Coleg Corpus Christi, Rhydychen]]. Cyn raddio, golygodd argraffiad newydd o ''Pentalogia'' [[John Burton]]. Yn [[1781]] golygodd argraffiad o lyfr [[Richard Dawes]], ''Miscellaneci Critica''. Yn [[1783]] daeth yn gymrawd o'i goleg ac yn [[1785]] cafodd ei apwyntio yn gaplan i [[Shute Barrington]], esgob Salisbury, a'i helpodd i gychwyn ar ei yrfa glerigol.
 
Yn [[1788]] cyhoeddodd ei ''Considerations on the Abolition of Slavery'', a awgrymodd ddodd â [[caethwasiaeth|chaethwasiaeth]] i ben ond dros amser yn hytrach nag ar unwaith. Yn [[1791]] aeth gyda Barrington i ddinas [[Durham]].
 
Yn [[1803]] cafodd ei apwyntio yn [[Esgob Tyddewi]], ac arosodd yno am ugain mlynedd. Sefydlodd gangen o'r [[SPCK]] yn yr esgobaeth a hefyd [[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan|Coleg Dewi Sant]] ([[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan]] heddiw). Cyfranodd yn helaeth i'r coleg newydd a gadawodd ei lyfrgell sylweddol iddo yn ei ewyllys. Yn wreiddiol bwriad Burgess oedd adeiladu ei goleg newydd i hyfforddi offeiriaid yn [[Llanddewi Brefi]] (oedd ar y pryd yn debyg o ran maint i Lanbedr Pont Steffan, deg cilomedr i ffwrdd ac yn fan pwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru), ond pan oedd Burgess yn aros gyda'i gyfaill [[Esgob Caerloyw]] ym [[1820]] cyfarfu â John Scandrett Harford, dyn cyfoethog a thirfeddiannwr mawr yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Rhoddodd Harford safle tair erw i Burgess, sef Maes y Castell (safle'r brifysgol heddiw). Fel hyn, Sefydlwyd Coleg Dewi Sant ym [[1822]] a derbyniwyd y myfyrwyr cyntaf ar [[Dydd Gŵyl Dewi|Wyl Ddewi]] [[1827]]. Derbyniodd ei siartr cyntaf ym [[1828]].