Charles Darwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 9:
}}
 
[[Naturiaethwr]] [[Saeson|Seisnig]] a chwyldrôdd yr astudiaeth o hanes natur a'r cysyniad traddodiadol am natur a hanes y ddynolryw oedd '''Charles Robert Darwin''', [[Fellow of the Royal Society|F.R.S.]] (12 Chwefror 1809 – 19 Ebrill 1882). Gosododd y seiliau i ddamcaniaeth [[esblygiad]] ac hefyd cynigiodd yr egwyddor o [[tarddiad cyffredin|darddiad cyffredin]] fel canlyniad i [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]]. Cyflwynwyd y ddamcaniaeth i'r byd ym 1858 yn y Linnaean Society ar y cyd ag [[Alfred Russel Wallace]] ac i'r cyhoedd wedyn yn y llyfr ''[[The Origin of Species]]'', a gyhoeddwyd yn [[1859]]; gwaith enwocaf Charles Darwin.
 
Yn Awst 1831, astudiodd [[Creigiau Eglwyseg|greigiau Eglwyseg]] ger [[Llangollen]] ac yna ymweliad â [[Pen y Gogarth|Phen y Gogarth]] yn [[Llandudno]], cyn mynd ymlaen i [[Cwm Idwal|Gwm Idwal]] yn [[Eryri]] lle sylweddolodd (am y tro cyntaf) fod y Ddaear yn llawer iawn hŷn nag a gredwyd yr adeg honno.<ref>[http://thedispersalofdarwin.blogspot.com/2008/10/charles-darwin-visit-to-cwm-idwal-on.html Llun y gofeb ar gyfer ei ymweliad]</ref><ref>[http://charles-darwin.classic-literature.co.uk/the-autobiography-of-charles-darwin/ebook-page-11.asp Ei hunangofiant (Saesneg), lle ceir ei stori'n llawn]</ref>
 
Teithiodd Darwin o gwmpas y byd ar fwrdd [[HMS Beagle|HMS ''Beagle'']] ac roedd ei arsylliadau ar [[Ynysoedd y Galapagos]] yn bwysig iawn i'w ddamcaniaeth.
Llinell 19:
Yn ystod ei deithiau ar y ''[[HMS Beagle|Beagle]]'' astudiodd Darwin [[daeareg]] [[cyfandir]]oedd ac [[ynys]]oedd yn ogystal â nifer o [[anifail|anifeiliaid]], [[planhigyn|planhigion]] a [[ffosil]]iau. Mewn ffordd drefnus iawn, casglodd nifer enfawr o enghreifftiau nad oedd neb wedi eu hastudio o'r blaen. Rhoddodd y casgliad pwysig yr oedd wedi ei gasglu i'r [[Yr Amgueddfa Brydeinig|Amgueddfa Brydeinig]]. Roedd Darwin yn un o arloeswyr [[ecoleg]].
 
Yn ystod ei deithiau, aeth Darwin i'r Ynysfor [[Cape Verde]], i [[Ynysoedd Falkland]] ([[Malvinas]]), i lannau môr [[De America]], [[Ynysoedd y Galapagos]], [[Seland Newydd]] ac [[Awstralia]]. Daeth yn ôl adref ar [[2 Hydref]], [[1836]], ac ar ôl hynny roedd e'n dadansoddi y sbesimenau a gasglodd, pan sylweddolodd fod ffosiliau anifeiliaid a phlanhigion o'r un ardal ddaearyddol yn debyg iawn i'w gilydd. Ei ddarganfyddiad pwysicaf oedd am [[crwban|grwbanod]] ac [[aderyn|adar]] Ynysoedd y Galapagos: mae math arbennig gwahanol ohonynt ar bob ynys yn dilyn eu golwg, eu bwyd ac ati, ond yn debyg iawn fel arall.
 
Yng ngwanwyn [[1837]] hysbyswyd ef fod adaregwyr yr Amgueddfa Brydeinig - Byd Natur wedi derbyn mai [[llinos]] oedd yr holl adar a gasglodd ar Ynysoedd y Galapagos. Hyn a thraethawd [[Thomas Malthus]] ar boblogaeth a cyhoeddwyd ym [[1798]] arweiniodd at ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturol a rhywiol. Er enghraifft datblygwyd yr holl amrwyiaeth o grwbanod yr Ynysoedd o'r un rhywogaeth trwy ymaddasu i fywyd ar ynysoedd gwahanol, yn ôl ei ddamcaniaeth.