Arsyllfa Frenhinol Greenwich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Llinell 1:
[[Delwedd:Greenwich Observatory. - geograph.org.uk - 44181.jpg|250px|bawd|Arsyllfa Frenhinol Greenwich.]]
[[Delwedd:Greenwich Observatory from the Maritime Museum - geograph.org.uk - 109818.jpg|250px|bawd|Yr Arsyllfa ar ei bryn.]]
Lleolir '''Arsyllfa Frenhinol Greenwich''' ar fryn ym Mharc [[Greenwich]] yn [[Llundain]]. Roedd y [[Seryddwr Brenhinol]] yn gweithio yn y fan yma ac roedd yr arsyllfa ar y [[Prif Feridian]], sef y meridian sylfaenol ar gyfer pob [[hydred]]. Heddiw, mae llinell efydd ar y lawnt yn dangos safle'r Prif Feridian ac ers [[16 Rhagfyr]], [[1999]] mae golau laser gwyrdd wedi goleuo i'r gogledd yn ystod y nos.
 
Comisiynwyd yr arsyllfa gan y brenin [[Siarl II o Loegr a'r Alban|Siarl II]] ym [[1675]]. Adeiladwyd yr arsyllfa wreiddiol, Flamsteed House ([[1675]]-[[1676|76]]), gan Syr [[Christopher Wren]]. Dyma'r adeilad cyntaf ym Mhrydain i gael ei adeiladu'n arbennig fel sefydliad ymchwil gwyddonol.
 
Nid yw'r awyr uwchben Llundain bellach yn ddigon clir ar gyfer seryddiaeth, felly symudwyd yr Arsyllfa Frenhinol i Gastell Herstmonceux ger [[Hailsham]], [[Dwyrain Sussex]]. Adeiladwyd Sbiendrych Isaac Newton yn y fan yma ym [[1967]], ond symudwyd ef i [[La Palma]] yn [[Sbaen]] ym [[1979]]. Symudodd yr Arsyllfa Frenhinol unwaith eto ym [[1990]], y tro yma i [[Caergrawnt|Gaergrawnt]], ond ar ôl penderfyniad y [[Cyngor Ymchwil Ffiseg Gronyn a Seryddiaeth]] (PPARC) terfynwyd ef ym [[1998]]. Ar ôl hynny symudwyd [[Swyddfa y Nautical Almanac]] i Labordy Rutherford Appleton ac unwaith arall i'r [[Canolfan Technoleg Seryddiol]] yng [[Caeredin|Nghaeredin]].
 
Cyn i gyflwyno [[Amser Cyfesurol Cyffredinol]] roedd [[Amser Safonol Greenwich]] (GMT), sef amser a penderfynwyd ar ôl arsylliadau'r arsyllfa hon, yr amser sylfaenol y byd.
 
Mae'r [[pelen amser]] wedi a'i adeiladwyd gan y Seryddwr Brenhinol [[John Pond]] ym [[1833]] yn dal i gwympo pob dydd ar 13:00. Heddiw, mae yna hefyd amgueddfa offer seryddol a mordwyol sydd yn cynnwys H4, y cronomedr hydred gan [[John Harrison]].
 
{{eginyn Llundain}}
 
[[Categori:Arsyllfeydd|Arsyllfa Frenhinol, Greenwich]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yn Llundain]]
 
 
{{eginyn Llundain}}