Edwin, brenin Northumbria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 18 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q348955 (translate me)
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Llinell 4:
Roedd Edwin yn fab i [[Aella, brenin Deift|Ælle]], brenin [[Deifr]]. Wedi marwolaeth ei dad, daeth [[Æthelfrith]] yn frenin Northumbria, a bu Edwin mewn alltudiaeth. Mae traddodiad, er enghraifft gan [[Sieffre o Fynwy]], oddo gael nodded gan [[Cadfan ap Iago]], brenin [[Teyrnas Gwynedd]]. Mae [[Trioedd Ynys Prydain]] yn ei enwi fel "un o dri gormeswr ar [[Ynys Môn|Fôn]] a fagwyd ar yr ynys".
 
Lladdwyd Æthelfrith mewn brwydr gan [[Raedwald, brenin East Anglia]] tua [[616]], a daeth Edwin yn frenin Northumbria. Tua [[616]] neu [[626]], goresgynnodd deyrnas Frynthonig [[Elfed]], ac ymosododd ar [[Ynys Manaw]]. Erbyn tua [[627]], ef oedd y mwyaf grymus o frenhinoedd yr [[Eingl-Sacsoniaid]], a dywedir iddo feddiannu Ynys Môn am gyfnod. Ymddengys iddo orchfygu [[Cadwallon ap Cadfan]], brenin Gwynedda, a'i orfodi i ffoi i [[Ynys Lannog]] ac yna i [[Iwerddon]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' digwyddodd hyn yn [[629]].
 
Yn [[632]] gwnaeth Cadwallon gynghrair gyda [[Penda]], brenin [[Mercia]] yn erbyn Edwin. Gorchfygwyd Edwin ganddynt ym Mrwydr Meigen, a lladdwyd ef ar faes y frwydr.