Afon Dyfrdwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Llinell 2:
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Afon Dyfrdwy''' (weithiau hefyd gyda threiglad, '''Afon Ddyfrdwy'''); ([[Saesneg]], ''River Dee''; [[Lladin]], ''Deva Fluvius''). Mae'n llifo trwy siroedd [[Gwynedd]], [[Sir Ddinbych]] a [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]] yng Nghymru ac ar hyd ffin [[Swydd Gaer]] a [[Swydd Amwythig]] yn Lloegr.
 
Mae'n llifo o'r bryniau uwchben [[Llanuwchllyn]] yn [[Gwynedd|Ngwynedd]] trwy [[Llyn Tegid|Lyn Tegid]], dros Raeadr y Bedol a thrwy [[Llangollen]]. Ger Llangollen, mae [[Camlas Llangollen]] (hen enw: Camlas Ellesmere) yn croesi'r afon ar [[Traphont Pontcysyllte|Draphont Pontcysyllte]] a adeiladwyd gan [[Thomas Telford]] ym [[1805]]. Yn [[Lloegr]], mae dinas [[Caer]] ar lan ddwyreiniol yr afon. Mae'n llifo i mewn i'w [[aber]] yn fuan wedyn; gelwir yr ardal o gwmpas ei glannau yn [[Glannau Dyfrdwy|Lannau Dyfrdwy]].
 
== Geirdarddiad ==
Llinell 25:
Ceir tarddle afon Dyfrdwy ar lechweddau dwyreiniol [[Dduallt]], ychydig i'r gogledd-ddwyrain o gopa [[Rhobell Fawr]] ac i'r de-orllewin o bentref [[Llanuwchllyn]]. Mae'n llifo tua'r dwyrain, ac yna i'r gogledd-ddwyrain, yn gyfochrog a'r briffordd [[A494]] i gyrraedd Llanuwchllyn. Gerllaw'r pentref, mae [[afon Lliw]] yn ymuno a hi, ac ychydig ymhellach ymlaen mae [[afon Twrch]] yn ymuno, gerllaw caer Rufeinig [[Caer Gai]]. Mae'n llifo trwy [[Llyn Tegid|Lyn Tegid]], ac yn gadael y llyn gerllaw [[y Bala]], lle mae [[afon Tryweryn]] yn ymuno a hi.
 
Llifa'r afon tua'r dwyrain ar hyd Dyffryn Penllyn, heibio [[Llandderfel]] ac olion castell Crogen. Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain a llifo heibio [[Cynwyd]], ac yn fuan wedyn mae [[afon Alwen]] yn ymuno a hi. Gerllaw [[Corwen]] mae'n troi tua'r dwyrain eto, a llofo ar hyd Dyffryn Edeirnion heibio [[Carrog]] a [[Glyndyfrdwy]], gan fynd heibio olion [[Castell Glyndyfrdwy]], hen gaer [[Owain Glyndŵr]], yna'n llifo trwy dref [[Llangollen]]. Ychydig ymhellach i'r dwyrain, mae [[Traphont Pontcysyllte]] yn cario [[Camlas Llangollen]] dros yr afon, rhwng pentrefi Trefor a [[Froncysyllte]].
 
[[Delwedd:SPIMG0001a.jpg|270px|ewin bawd|chwith|Pont bwa Bangor is y Coed]]