Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: ffynonellau a manion using AWB
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Llinell 24:
}}
 
Prifddinas y [[Deyrnas Unedig]] a phrifddinas [[Lloegr]] yw '''Llundain''' ([[Saesneg]]: ''London''). Saif y ddinas ar lan afon [[Afon Tafwys|Tafwys]] yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua 7.5 miliwn. Mae 130 o filltiroedd rhwng Llundain a [[Caerdydd|Chaerdydd]].
 
Mae'r ddinas wedi bodoli ymhell cyn dyfodiad y Saeson i Loegr: ceir olion [[Celtiaid|Celtaidd]] a [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeinig]], ac mae'n debyg bod yr enwau modern arni, drwy'r enw Lladin '''Londinium'', o darddiad Celtaidd. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' (12fed ganrif) a'r chwedl Gymraeg ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'', [[Lludd fab Beli]] a roddodd ei enw i'r ddinas drwy'r enw 'Caer Ludd'.<ref>Gweler: Ifor Williams (gol.), Cyfranc Lludd a Llefelys (Bangor 1910; arg. newydd 1922)</ref>
Llinell 35:
Yn 450 O.C. roedd Llundain yn parhau i fod yn nwylo'r Brythoniaid.<ref>Hanes Cymru gan John Davies, Gwasg Penguin, 1990, tudalen 56</ref>.
 
Erbyn y [[600au]], cododd yr Eingl-sacsonaidd adeiladau newydd a galw'r dref yn Lundenwic a oedd tua 1000 troedfedd i fyny’r afon o’r hen ddinas Rufeinig; bellach a elwir yn [[Covent Garden]]. Mae'n debygol y byddai harbwr wedi bod ar aber yr afon Fleet bryd hynny ar gyfer pysgota a masnachu. Tyfodd y masnachu hyd oni chafodd yr ardal ei goresgyn gan [[Y Llychlynwyr]]. Bu'n rhaid i’r ddinas ailsefydlu ei hun yn yr hen safle, sef safle Llundain Rufeinig lle'r oedd yna furiau i'w hamddiffyn. Parhaodd yr ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn ne-ddwyrain Lloegr tan 886 pan ail-gipiodd [[Alfred Fawr]] y ddinas a chreu heddwch efo’r arweinydd Daneg, Guthrum. Daeth y ddinas Sacsonaidd, wreiddiol sef ‘’Lundenwic’’ yn ‘’Ealdwic’’ (Hen Ddinas), enw a oroesodd tan heddiw fel ‘’Aldwych’’ sydd yn [[San Steffan|Ninas San Steffan]].
 
[[Delwedd:London 1300 Historical Atlas William R Shepherd (died 1934).PNG|200px|dde|thumb|Map o Lundain yn 1300]]
 
Mewn dial, ymosododd byddin y Saeson gan ddymchwel ‘’London Bridge’’. Roedd y Saeson yn ôl, ac yn rheoli mewn safle pwerus. Daeth [[Canute Fawr]] i rym yn 1016, arweiniodd y ddinas tan ei farwolaeth yn 1035. Pan fu farw, dychwelodd arweiniad y dalaith i'r Sacsoniaid. Erbyn hyn, roedd Llundain yn un o ddinasoedd mwyaf (a mwyaf ffyniannus) [[Lloegr]] er bod pencadlys y llywodraeth yn [[Winchester]]. Yn dilyn buddugoliaeth [[Brwydr Hastings]] yn 1066, coronwyd [[Wiliam I, brenin Lloegr|Gwilym y Gorchfygwr]] ac yna [[Dug Normandi]] fel Brenin Lloegr mewn abaty newydd yn San Steffan ar ddydd Nadolig 1066. Rhoddodd [[Wiliam I, brenin Lloegr|Gwilym (William)]] freintiau i’r dinasyddion, ac ar yr un pryd adeiladwyd [[Tŵr Llundain]] i gadw trefn ar ei dinasyddion.
 
Dechreuwyd adeiladu [[Palas San Steffan]] yn 1097 yn agos i’r abaty o’r un enw. Mae [[San Steffan]] wedi bod yn ardal lywodraethol o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. Tyfodd Llundain mewn cyfoeth a phoblogaeth yn ystod yr [[Oesoedd Canol]]. Yn 1100 roedd poblogaeth Llundain tua 18,000; erbyn 1300 tyfodd i bron 100,000. Gwaharddodd [[Edward I, brenin Lloegr|Brenin Edward]] Iddewon o'r ddinas a lleihaodd y boblogaeth.
 
[[Delwedd:Great Fire London.jpg|dde|thumb|200px|[[Tân Mawr Llundain]]]]
Llinell 47:
Daeth trychineb y [[Pla du]] yn y 14eg ganrif. Collodd Llundain traean o’i phoblogaeth. Roedd yn weddol dawel yn ystod y canol oesoedd, oni bai am rhai rhyfeloedd cartref megis [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]]. Ar ôl trechu'r [[Armada Sbaeneg]] yn 1588, cafwyd sefydlogrwydd llywodraethol a gwelwyd twf yn y ddinas. Yn 1603 daeth [[Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI)]] yn frenin Lloegr. Roedd ei ddeddfau gwrth-[[Catholigiaeth|Gatholig]] yn amhoblogaidd iawn, ac felly cafwyd ymgais i'w lofruddio; adnabyddir hyn fel [[Cynllwyn y Powdr Gwn]] (‘’gunpowder plot’’) ar y 5ed o Dachwedd 1605.
 
Achosodd y Pla Mawr nifer o broblemau yn Llundain yn gynnar yn yr 17eg ganrif. Lladdwyd rhwng 70,000 a 100,000 yn y pla rhwng 1665-66. Daeth y pla i ben fwy na thebyg oherwydd i’r [[Tân Mawr Llundain|dân mawr Llundain]], ei glirio yn 1666. Cynnwyd y tân yn y ddinas wreiddiol ac ymledodd drwy’r adeiladau pren a'r toeau gwellt. Cymerodd yr ailadeiladu 10 mlynedd i'w hailadeiladu.
 
Yn dilyn twf mawr Llundain yn y 18fed ganrif, fe gafodd yr anrhydedd o'i galw'r ddinas fwyaf yn y byd o 1831 i 1925. Arweiniodd y cynnydd mewn cludiant at adeiladu’r system danddaearol cyflyma'r byd.
 
Lladdwyd dros 30,000 o bobl yn ystod [[Y Blitz]] gan ddinistrio nifer fawr o adeiladau ar draws Llundain.
Llinell 152:
* [[Canolfan Cymry Llundain]]
*[[Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr]]
 
{{eginyn Llundain}}
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|nn}}
Llinell 163 ⟶ 161:
[[Categori:Dinasoedd Lloegr]]
[[Categori:Prifddinasoedd Ewrop]]
 
 
{{eginyn Llundain}}