Owen Jones (pensaer): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 5 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1380862 (translate me)
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Llinell 3:
Pensaer ac awdur o dras Cymreig oedd '''Owen Jones''' ([[15 Chwefror]] [[1809]] - [[19 Ebrill]] [[1874]]). Roedd yn un o arloeswyr [[chromolithograffeg]].
 
Ganed ef yn [[Llundain]], yn fab i [[Owen Jones (Owain Myfyr)]]. Wedi iddo gael ei brentisio i swyddfa pensaer am chwe blynedd, treuliodd bedair blynedd yn teithio yn [[yr Eidal]], [[Gwlad Groeg]], [[Twrci]], [[yr Aifft]] a [[Sbaen]]. Gwnaeth astudiaeth arbennig o'r [[Alhambra]] yn [[Granada]].
 
Wedi dychwelyd i Lundain yn [[1836]], bu'n gweithio fel pensaer, yn arbenigo mewn tu mewn adeiladau. Roedd yn un o'r arolygwyr ar gyfer [[Arddangosfa 1851]] ac yn gyfrifol am addurno'r [[Palas Grisial]]. Sefydlodd y ''Museum of Manufacturers'', rhagflaenydd y [[Amgueddfa Victoria ac Albert]]. Yn 1856 cyhoeddodd ef a'r Arglwydd Brougham gynllun ar gyfer "Palas y Bobl", a gwblhawyd yn [[1873]] fel yr ''Alexandra Palace''.
 
Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, '''The [[Grammar of Ornament]]''', yn 1856, a chafodd ddylanwad mawr trwy gyflwyno gwaith celf addurnol o wledydd y dwyrain i'r gorllewin.