Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categori
b
Llinell 1:
Roedd '''Garmon''' neu '''Germanus o Auxerre''' (c. [[378]]–[[31 Gorffennaf]], [[448]]) yn esgob [[Auxerre]] yng [[Gâl|Ngâl]]. Ystyrir ef yn [[sant]] gan yr [[Eglwys Gatholig]] a'r [[Eglwysi Uniongred]]; ei ddydd gŵyl yw [[31 Gorffennaf]]. Y prifbrif ffynhonnell ar gyfer ei hanes yw'r fuchedd a ysgrifennwyd gan [[Constantius o Lyon]] tua [[480]]. Roedd Constantius yn gyfaill i'r esgob [[Lupus]], aeth gyda Garmon ar ymweliad â Phrydain.
 
Ordeiniwyd Garmon yn esgob Auxerre gan Sant [[Amator]], ei ragflaenydd yn y swydd. Dywedir iddo fod yn gyfreithiwr ac yn llywodraethwr talaith cyn troi at yr eglwys. Tua [[429]], daeth y newydd fod [[Pelagiaeth]] yn ennill tir ym Mhrydain oherwydd dylanwad Agricola, mab i esgob. Mewn cyfarfod o esgobion Gâl dewiswyd Garmon a Lupus, esgob [[Troyes]], i ymweld a Phrydain i wrthwynebu dylanwad Agricola.
 
Cyfarfu Germanus a Lupus gyda'r Pelagiaid mewn cyfarfod cyhoeddus mawr ym Mhrydain. Dywedir i Garmon gael y gorau ar y Pelagiaid oherwydd ei allu rhethregol. Wedi'r cyfarfod aeth Germanus a Lupus i ymweld a bedd [[Sant Alban]], sy'n awgrymu efallai fod y cyfarfod yn [[Verulamium]].
 
Tra'r oedd ym Mhrydain, arweiniodd Garmon y [[Brython|Brythoniaid]] i fuddugoliaeth yn erbyn byddin o [[Pictiaid|Bictiaid]] a [[Sacsoniaid]] mewn brwydr a elwir yn [[Brwydr yr Haleliwia|Frwydr yr Haleliwia]] neu Frwydr Maesgarmon. Wedi bedyddio ei fyddin, gorchmynodd Garmon iddynt weiddi "Haleliwia", gan godi arswyd ar y gelyn nes iddynt ffoi. Yn ôl traddodiad, ymladdwyd y frwydr ar safle ger [[Yr Wyddgrug]].
 
Daeth Garmon i Brydain eilwaith yn y 440au, gyda Severus, Esgob [[Trier]]. Bu farw yn
Llinell 16:
 
==Llyfryddiaeth==
*E. G. Bowen, ''The Dedications of the Celtic Saints in Wales''.
 
[[Categori:Seintiau Cristnogol]]