John Leland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 7 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1398356 (translate me)
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Llinell 1:
[[Delwedd:John Leland.jpg|thumb|right|John Leland]]
Hynafiaethydd o Sais oedd '''John Leland''' (c. [[1506]] - [[18 Ebrill]] [[1552]]).
 
Ganed ef yn [[Llundain]] rywbryd tua 1502 neu 1506, ac astudiodd yng [[Coleg Crist, Caergrawnt|Ngholeg Crist, Caergrawnt]] lle graddiodd yn [[1521]]. Bu'n astudio yng [[Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen|Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen]], gan ganolbwyntio ar [[Groeg (iaith)|Roeg]], yna bu'n astudio ym [[Paris|Mharis]].
 
Yn ddiweddarach bu'n diwtor i'r Aglwydd Thomas Howard, mab Dug Norfolk. Ordeiniwyd ef, a daeth yn gaplan i [[Harri VIII, brenin Lloegr]], a roddodd y teilt o Hynafiaethydd Brenhinol iddo. Yn 1533 comisiynodd y brenin ef i deithio o gwmpas llyfrgelloedd eglwysi cadeiriol a mynachlogydd i gofnodi hynafiaethau, a threuliodd y cyfnod 1540 hyd 1546 yn teithio trwy Loegr a Chymru yn cofnodi popeth o ddiddordeb hynafiaethol. Cyflwynodd y canlyniadau i'r brenin dan y teitl ''New Year's Gift'', a gyhoeddwyd gan John Bale yn 1549.
 
Dywedir iddo ddioddef afiechyd meddyliol o [[1547]], a chyhoeddwyd ef yn wallgof yn [[1550]]. Roedd yn parhau yn wallgof pan fu farw yn 1552.
 
Cedwir ei nodiadau yn [[Llyfrgell y Bodleian]], ac maent yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer hanes lleol, gan gynnwys agweddau ar hanes lleol Cymru; noda Leland fod [[glo]] yn cael ei losgi ar aelwydydd [[Caerfyrddin]] yn [[1537]], er enghraifft.<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'', tud. 251.</ref> Cyhoeddwyd ''The Itinerary of John Leland, Antiquary'', gan Thomas Hearne mewn naw cyfrol yn 1710, ac ail argaffiad wedi ei ehangu a'i gywiro yn 1745.
 
==Cyfeiriadau==