Lydia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Sefydlwyd teyrnas Lydia wedi i Ymerodraeth yr [[Hethiaid]] ymrannu yn y ddeuddegfed ganrif CC.. Yr enw gwreiddiol oedd '''Maionia''' ('''Maeonia'''); mae [[Homeros]] yn cyfeirio at y ''Meiones'' yn yr ''[[Iliad]]''.
 
Y mwyaf adnabyddus o frenhinoedd Lydia oedd [[Croesus]], oedd yn enwog am ei gyfoeth. Talodd am adeiladu [[Teml Artemis (Effesus)|Teml Artemis]] yn [[Effesus]], oedd yn un o [[Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd]]. Yn 546 CC. roedd Croesus yn dymuno ymosod ar [[Ymerodraeth Persia]]. Cyn gwneud hynny, yn ôl yr hanesydd Groeg [[Herodotus]], gyrrodd gennad i [[Delffi]] i ofyn barn yr [[Pythia|oracl]] yno. Ateb yr oracl oedd, pe croesai Croesus [[Afon Halys]], byddai'n dinistrio ymerodraeth fawr. Cymerodd Croesus hyn fel arwydd i fynd ymlaen a'i ymgyrch, ond gorchfygwyd ef gan [[Cyrus Fawr]], brenin Persia. Gwireddwyd geiriau'r oracl; ond yr ymerodraeth a ddinistriwyd gan Croesus oedd ei ymerodraeth ef ei hun. Daeth Lydia yn un o daleithiau Ymerodraeth Persia.
 
 
 
[[Categori:Yr Henfyd]]
[[Categori:Asia Leiaf]]
[[Categori:Twrci]]