Oblast Nizhny Novgorod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Baner Oblast Nizhny Novgorod. Delwedd:Nizhny Novgorod in Russia.svg|250px|bawd|Lleoliad Oblast...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:14, 16 Gorffennaf 2013
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Nizhny Novgorod (Rwseg: Нижегоро́дская о́бласть, Nizhegorodskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Nizhny Novgorod. Poblogaeth: 3,310,597 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir Oblast Nizhny Novgorod yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Volga. Llifa Afon Volga drwy'r oblast. Ar wahân i ardal fetroplitaidd Nizhny Novgorod ei hun, Arzamas yw'r ddinas fwyaf. Mae dinasoedd a threfi eraill yn cynnwys Sarov, lle ceir Mynachlog Serafimo-Diveyevsky, Lyskovo sy'n enwog am ei ffair fawr, Gorodets a Balakhna ar lan Afon Bolga.
Ffinia'r oblast gyda Oblast Kostroma (gog.), Oblast Kirov (gog-ddwy.), Gweriniaeth Mari El (dwy.), Gweriniaeth Chuvash (dwy.), Gweriniaeth Mordovia (de), Oblast Ryazan (de-orll.), Oblast Vladimir (gorll.), ac Oblast Ivanovo (gog-orll.).
Sefydlwyd Oblast Nizhny Novgorod ar 5 Rhagfyr 1936.
Dolenni allanol
- (Rwseg) Gwefan swyddogol yr oblast