Alecsander Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Refs, enw delweddau a Nodion, replaced: Afghanistan → Affganistan using AWB
citation added
Llinell 15:
Trodd Alecsander ei olygon i ogledd-ddwyrain yr ymerodraeth. Aeth trwy diriogaeth gorllewin a de [[Affganistan]] trwy [[Herat]] ac ardal [[Helmand]]. Croesodd yr [[Hindu Kush]] ar ddechrau'r gaeaf a choncrodd [[Bactria]]na, lle priododd y dywysoges [[Roxana]]. Gadwodd rhai hen filwyr i sefydlu dinasoedd newydd; y mwyaf anghysbell o'r rhain oedd [[Alexandria Eschate]] ar lan [[Syr Darya|afon Jaxartes]] (yn [[Tajikistan]] heddiw). Croesodd brif gadwyn yr Hindu Kush, tros [[Bwlch Khyber|Fwlch Khyber]], a disgynodd i ddyffryn [[Afon Indus]], lle gorchfygodd y brenin Indiaidd [[Porus]] ym [[Brwydr Hidaspes|mrwydr Hidaspes]]. Ar ôl anfon rhan o'r fyddin yn ôl trwy Affganistan i warchod y taleithiau yno, dychwelodd Alecsander a rhan arall ei fyddin i'r Dwyrain Canol trwy ddilyn arfordir de Pacistan ac Iran. Ar y daith beryglus ac anodd collwyd nifer o filwyr, yn arbennig wrth groesi anialdiroedd [[Makran]]. Ceisiodd y llynges dan arweiniad [[Perdiccas]], a adeiladwyd gan Alecsander ar Afon Indus, gysgodi'r fyddin, ond yn aflwyddianus.
 
Bu farw Alecsander ym [[Babilon|Mabilon]], [[Mesopotamia]] yn 32 oed.<ref name="WDL">{{cite web |url = http://www.wdl.org/en/item/11739/ |title = Kingdoms of the Successors of Alexander: After the Battle of Ipsus, B.C. 301 |website = [[World Digital Library]] |date = 1800-1884 |accessdate = 2013-07-27 }}</ref> Mae ansicrwydd beth yn union oedd y clefyd a'i lladdodd; math o dwymyn mae'n ymddangos. Wedi ei farwolaeth bu ymladd ffyrnig ymysg ei gadfridogion am ei deyrnas. Ganwyd ei fab, hefyd yn Alecsander, i Roxane wedi marwolaeth ei dad. Daeth ef yn frenin mewn enw am gyfnod byr fel [[Alecsander IV o Facedonia|Alecsander IV]], ond o fewn ychydig flynyddoedd nid oedd neb o deulu Alecsander yn parhau'n fyw.
 
Ymhlith y mwyaf llwyddiannus o'r cadfridogion fu'n ymladd am ran o'i deyrnas gellir enwi [[Ptolemi I Soter|Ptolemi]] a ddaeth i rym yn yr Aifft a [[Seleucus I Nicator|Seleucus]] a enillodd ran helaeth o [[Asia]].
Llinell 25:
== Gweler hefyd ==
* [[Alexandria (gwahaniaethu)|Rhestr o leoedd a enwir yn Alexandria]]
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|fi}}