Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Lleihawyd o 27 beit ,  6 blynedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
Ar ôl ennill y goron ym [[1553]] ar farwolaeth ei brawd hŷn, [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]], penderfynodd Mari ailsefydlu Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru a Lloegr. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis [[Richard Davies]]. Llosgwyd bron tri chant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru, [[Rawlins White]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], [[Robert Ferrar]] yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] a [[William Nichol]] yn [[Hwlffordd]].
 
Priododd y brenin [[Felipe II, brenin Sbaen|Felipe II o Sbaen]] ar y [[25 Gorffennaf]] [[1554]]. Roedd yn briodas amhoblogaidd iawn yn Lloegr.
 
Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym [[1558]], ailgyflwynodd ei hanner chwaer [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|Elisabeth]] y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru a Lloegr.