System cyfesurynnau daearyddol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhan ar elipsoidau
Llinell 5:
 
__FORCETOC__
 
==Amcangyfrif siap y Ddaear==
Nid yw'r ddaear yn sffêr berffaith. Yn hytrach, mae'n bêl sydd ychydig yn letach o amgylch y cyhydedd. Yn ogystal, mae arwyneb y ddaear yn gymleth ac yn arw, yn ymestyn o'r dyfnderoedd morwrol i gopaon mynyddoedd, ynghyd â'r platiau tectonig. Felly, er mwyn diffinio system gyfesurynnol ar y ddaear, defnyddir elfen geomertig sy'n ''symleiddio'' y sefyllfa, o leia yn fathemategol os nad yn ddaearyddol.
 
Y symleiddiad mwyaf cyffredin ydy ''elipsoid ddau echelin'' (''biaxial ellipsoid''), sy'n ffigwr tri-dimensiwn o hirgrwn wedi troi o amgylch ei echelin byraf. Gellir defnyddio amryw elipsoidau er mwyn amcangyfrif ffurf y ddaear. Yn gyffredinol, dibynna'r dewis ar ba ranbarth(au) sydd o dan sylw. Er enghraifft, defnyddir elipsoid GRS80 (''Geodetic Reference System 1980'') gan system leoli GPS am ei fod yn amcangyfrif cyffredinol i ran fwyaf o'r byd. Ar y llaw arall, defnyddir elipsoid Airy 1830 gan yr Ordnance Survey i fapio Prydain am ei fod yn amcangyfrif gwell yn y rhan hono o'r byd.
 
==Lledred a Hydred==