Arwyddion dwyieithog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Amtin (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 159:
==Arwyddion dwyieithog yng ngweddill y byd==
=== Y Maghreb: Algeria, Moroco a Tunisia ===
[[Image:Kabylia-3lingualPanneau signde signalisation multilingue à Issers (Algérie).jpg|left|200px|thumb|Arwydd croeso [[Arabeg]], [[Ieithoedd Berber|Berbereg]] (gwyddor Tifinagh) a [[Ffrangeg]] yn [[Isser]] yn [[Kabylie]] ([[Algeria]])]]
Mae gwledydd y [[Maghreb]], sef [[Algeria]], [[Moroco]] a [[Tunisia]], yn wledydd lle defnyddir [[Ffrangeg]] ar raddfa eang fel canlyniad o'r cyfnod pan fuont yn drefedigaethau Ffrengig. [[Arabeg]] yw'r iaith swyddogol yn y gwledydd hyn, ond mae nifer o bobl yn siarad Ffrangeg fel ail iaith ac mae dwyiethrwydd Arabeg-Ffrangeg yn beth cyffredin, yn enwedig yn Algeria a Tunisia gyda'r Ffrangeg yn iaith swyddogol ochr yn ochr â'r Arabeg yn yr olaf. Mae arwyddion ffyrdd ar y priffyrdd a'r ardaloedd trefol a thwristaidd yn dilyn y patrwm Ewropeaidd gydag arwyddion dwyieithog Arabeg a Ffrangeg, yn y drefn honno fel rheol. Defnyddir trawlythreniad i'r Ffrangeg o enwau lleoedd, e.e. [[Alger]] (''Algiers'') am ''al-Jazā'ir'', prifddinas Algeria. Yn ogystal, mae'n arferol cael arwyddion dwyieithog am enwau strydoedd ac mae nifer o siopau a busnesau eraill yn defnyddio arwyddion Arabeg-Ffrangeg hefyd. Mae'r arwyddion rheoli traffig rhyngwladol yn cael eu defnyddio gyda'r neges yn llythrennau'r wyddor Ladin (e.e. 'STOP' "AROS" a 'P' "Parcio") ochr yn ochr â'r fersiwn Arabeg (e.e. قف/STOP). Ond gan amlaf mae unrhyw wybodaeth ychwanegol mewn Arabeg yn unig, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.