Chwarel Llechwedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
del
Llinell 1:
[[Delwedd:Old power house at Llechwedd Quarry - geograph.org.uk - 580136.jpg|bawd|Adfeilion yr hen bwerdy yn Chwarel Llechwedd.]]
Chwarel lechi ger [[Blaenau Ffestiniog]] yw '''Chwarel Llechwedd'''. Roedd yn un o'r chwareli mwyaf yn yr ardal; yn [[1884]] cynhyrchwyd 23,788 tunnell o lechi gan 513 o weithwyr.
Agorwyd y chwarel yn [[1846]] gan [[John W. Greaves]]. Roedd ganddo eisoes lês ar chwareli Diffwys a Bowydd. Yn 1846 rhoddodd Greaves a'i bartner Edwin Shelton y gorau i chwarel Bowydd a chymeryd lês ar dir pori gerllaw. Y flwyddyn ddilynol, [[1847]], cafodd ei weithwyr hyd i'r "Hen Wythïen", a dechreuodd y chwarel ddatblygu'n gyflym dan fab J.W. Greaves, Ernest Greaves. Adeiladwyd incên i gysylltu'r chwarel a [[Rheilffordd Ffestiniog]] yn [[1848]].