Rygbi'r undeb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dynogymru (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.
 
Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad]] ([[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban|Yr Alban]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Eidal|Yr Eidal]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc|Ffrainc]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Iwerddon|Iwerddon]] a [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Lloegr|Lloegr]]) a'r Pencampwriaeth Rygbi ([[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin|Yr Ariannin]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Awstralia|Awstralia]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] a [[Crysau Duon|Seland Newydd]]) yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys yr Aviva Premiership yn Lloegr, y Top 14 yn [[Ffrainc]], y Currie Cup yn [[De Affrica|Ne Affrica]], a'r ITM Cup yn [[Seland Newydd]]. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y [[RaboDirect Pro 12]], y cystadleuaeth rhwng tîmoedd yn Yr Alban, Cymru, Yr Eidal ac Iwerddon; y Super Rugby, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r [[Cwpan Heineken]], sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.
 
Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.